You are here

Derbynwyr Gwobrau Arbennig 2017

Derbynnydd Gwobr Sian Phillips 2017: Abi Morgan

Abi Morgan

Ganwyd Abi Morgan yng Nghaerdydd ac er ei bod hi eisiau actio i ddechrau, penderfynodd ganolbwyntio ar fod yn awdur trwy astudio drama a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Caerwysg. Yna, dilynodd gwrs ysgrifennu ôl-raddedig yn yr Ysgol Lleferydd a Drama Ganolog.

Cafodd Abi ei chydnabyddiaeth ysgrifennu gyntaf ar y teledu ym 1998 ar gyfres ddrama ITV Peak Practice, ac yna gyda’r ddrama deledu My Fragile Heart (2000) a’r ddrama Murder ar BBC2 yn 2002, gyda Julie Walters yn chwarae’r brif ran.

Fe’i comisiynwyd i ysgrifennu’r ddrama unigol Sex Traffic ar gyfer Channel 4 yn 2004, ynglŷn â merch yn ei harddegau a fasnachwyd o’r Balcanau i Brydain. Enillodd y ddrama hon, a gyfarwyddwyd gan David Yates, wobr BAFTA 2005 am y Gyfres Ddrama Orau. Mae hi wedi ysgrifennu nifer o ddramâu unigol ar gyfer y teledu ers hynny, gan gynnwys Tsunami: The Aftermath (2006), White Girl, yn rhan o dymor Gwyn y BBC (2008) a Royal Wedding (2010), syn dilyn Priodas Frenhinol 1981 o safbwynt digwyddiadau a gynhaliwyd mewn pentref glofaol bach yng Nghymru.

Mae ei gwaith teledu hefyd yn cynnwys ysgrifennu Birdsong, sef addasiad o nofel Sebastian Faulks o’r un teitl mewn dwy ran ar gyfer y teledu.

Fe enillodd The Hour, a oedd wedi’i gosod mewn ystafell newyddion yn y BBC yn ystod Argyfwng Suez ym 1956, Wobr Emmy Primetime am Ysgrifennu Rhagorol ar gyfer Cyfres Fach, Ffilm, neu Raglen Ddramatig Arbennig, ar ôl cael ei henwebu yn 2012 hefyd. Cafodd River, cyfres 6 rhan ar gyfer y BBC/Netflix yn serennu Stellan Skarsgard ei ddarlledu yn 2015.

Mae Abi hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y sinema, a chafodd ei haddasiad 2007 o’r nofel Brick Lane gan Monica Ali glod gan feirniaid. Ei ffilm nesaf oedd The Iron Lady, gyda Meryl Streep yn portreadu Margaret Thatcher, a ddilynwyd yn agos gan  Shame, a ysgrifennwyd ar y cyd â Steve McQueen. Arweiniodd ei gwaith ar The Iron Lady at enwebiad ar gyfer Gwobr BAFTA am Sgript Ffilm Wreiddiol Orau, ac arweiniodd ei gwaith ar Shame at enwebiad ar gyfer Gwobr BAFTA am Ffilm Brydeinig Ragorol.

Aeth Abi ymlaen i ysgrfiennu The Invisible Woman ar gyfer BBC Films, wedi ei gyfarwyddo ac yn serennu Ralph Fiennes a Suffragettes i Film4 yn 2015.

Mae gan Abi nifer o ffilmiau sydd wrthi’n cael eu datblygu, gan gynnwys The Split, cyfres 6x60 munud ar gyfer BBC/Sundance sydd wrth yn ffilmio.


BAFTA Award for Outstanding Contribution to Film and Television: John Rhys Davies

John Rhys DaviesBAFTA/

Mae John Rhys-Davies yn un o actorion cymeriad mwyaf adnabyddus sinema fodern. Fe’i hadnabyddir gan amlaf fel Gimli yn Lord of the Rings, neu fel cymar comig Indiana Jones, Sallah, ond mae John wedi ymddangos mewn dros 150 o raglenni teledu a ffilmiau ers y 70au cynnar.

Tyfodd John i fyny yng Nghymru, Lloegr a Dwyrain Affrica. Roedd John yn 28 oed pan wnaeth ei ymddangosiad rheolaidd cyntaf ar gyfres deledu ym 1972 fel Laughing Spam Fritter yn BUDGIE  ar y BBC, cyn ymuno â John Hurt ar THE NAKED CIVIL SERVANT ac I, CLAUDIUS a CLAUDIUS THE GOD.

Enillodd perfformiad John enwebiad Emmy iddo, a arweiniodd at VICTOR / VICTORIA a RAIDERS OF THE LOST ARK, y cyntaf o ffilmiau Indiana Jones.

 

Mae John wedi gweithio ar nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu ac wedi gwneud ymddangosiadau gwadd cofiadwy ar CHIPS, MURDER SHE WROTE, PERRY MASON, TALES FROM THE CRYPT a STAR TREK: VOYAGER.

Ymddangosodd yn THE LIVING DAYLIGHTS a GREAT EXPECTATIONS cyn ymuno â'r cast ar gyfer THE FELLOWSHIP OF THE RING (2001), THE TWO TOWERS (2002), a RETURN OF THE KING (2003), a saethwyd ar yr un pryd dros gyfnod o 18 mis yn Seland Newydd.

Mae John hefyd wedi ymddangos mewn cyfryngau eraill, gan chwarae rhan flaenllaw mewn gemau fideo fel WING COMMANDER III: HEART OF THE TIGER, DUNE 2000, BALDUR'S GATE: DARK ALLIANCE, a QUEST FOR GLORY IV. Mae hefyd yn gweithio ar gêm newydd SQUADRON 42 gyda Chris Roberts (Wing Commander).

Yn fwy diweddar mae John wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau nodwedd gyda Jackie Chan, Gerrard Butler a Jason Statham ac ym mis Mai 2017, treuliodd ddau fis yn Ohio yn gorffen cyfnod saethu pum mis ar gyfer STARBRIGHT, wedyn dwy ffilm fer THE INVADER'S SONG a SHAMIRA, ffilm nodwedd animeiddiedig, BEAST OF BURDEN, mynychu tri chonfensiwn i genfogwyr, a chynhyrchu ffilm ddogfen ym Malta gyda'i ffrind Philip Glassborow.


The 2017 Special Awards will be presented during the Cymru Awards ceremony on 8 October. You can watch a live stream of the Awards from 7:30 on our Facebook page.