You are here

Cyffro Cyn Gwobrau BAFTA Cymru 2013

25 September 2013
Actress and singer Connie Fisher (How Do You Solve a Problem Like Maria?) strikes a poseBAFTA/ Huw John

Mae'r cyffro a'r dyfalu yn dwysau wrth i Seremoni Wobrwyo Academi Brydeinig Cymru agosáu dydd Sul yma (29 Medi, 2013) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

Bydd sêr y sgrin fach a mawr yn ymgynnull ar gyfer y digwyddiad arbennig i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn Ffilm a Theledu yng Nghymru. Byddant yn ymuno â llu o enwogion o fyd y theatr, cerddoriaeth a chwaraeon yng Nghymru.

Cyflwynir y noson gan y cyflwynydd teledu Matt Johnson a'r cyflwynydd newyddion Sian Lloyd ac mae disgwyl i sêr o ddramâu teledu Stella, Sherlock, The Indian Doctor ac Alys fod yn bresennol - pob un wedi derbyn nifer o enwebiadau eleni. Hefyd yn cerdded i lawr y carped coch nos Sul bydd y rheiny sydd wedi derbyn enwebiadau ar gyfer yr Actores Orau - Ruth Jones , Mali Harries a Sara Lloyd - Gregory a'r Actor Gorau - Michael Sheen , Mark Lewis Jones a Rhodri Meilir.

Mae llu o wynebau cyfarwydd wedi eu cadarnhau fel cyflwynwyr y gwobrau hefyd gan gynnwys pêl-droediwr Cymru a Chaerdydd Craig Bellamy, y gantores Charlotte Church, seren The White Queen, Aneurin Barnard , seren Casualty Suzanne Packer ac enillydd gwobr BAFTA am yr actores orau Vicky McClure. Wedi dychwelyd y bore hwnnw ar ôl dringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian i Ganolfan Ganser Felindre a'r elusen 'Justin Time', bydd y gantores glasurol Shân Cothi a'r actores Cath Ayers yn cyflwyno gwobr Rhaglen Blant Orau.

Yn difyrru'r gynulleidfa yn ystod y seremoni bydd y brodyr Richard ac Adam Johnson, sydd newydd gael ei albwm cyntaf ar frig y siartiau albwm. Bydd y ddau , sy'n hanu o Nhreffynnon, yn perfformio eu prif drac oddi ar eu albwm diweddar The Impossible Dream, yn dilyn eu hymddangosiad ar y sioe dalent deledu Britain's Got Talent.

Dywedodd Richard ac Adam: " Rydym wrth ein bodd o fod wedi cael gwahoddiad i agor seremoni wobrwyo BAFTA Cymru eleni . Hwn fydd ein perfformiad proffesiynol cyntaf yn adeilad eiconig Canolfan Mileniwm Cymru a bydd ymddangos o flaen cynulleidfa mor fawreddog yn fath anrhydedd i ni. Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig o ran talent greadigol ac mae mor bwysig ein bod i gyd yn dathlu hynny. Mae'n sicr o fod yn noson gofiadwy ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan ohono."

Bydd y sioe gyfan yn cael ei ffrydio'n fyw ar wefan BAFTA Cymru drwy gefnogaeth noddwyr y digwyddiad Autograffeg, NEP Cymru a Gorilla.

Eleni, mae 29 o gategorïau ar gyfer rhaglenni, crefft a pherfformiad i'w ddyfarnu eleni i anrhydeddu rhagoriaeth mewn darlledu a chynhyrchu mewn Ffilm a Theledu yng Nghymru rhwng 1 Ionawr 2012 a 31 Mawrth 2013.

Bydd cyfle i’r cyhoedd hefyd weld y seremoni’n fyw ac mae nifer cyfyngedig o docynnau cyhoeddus ar gael o hyd. Gellir eu prynu oddi wrth y Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru - 029 2063 6464 neu ar-lein yn www.amc.org.uk