You are here

EUROS LYN I’W ANRHYDEDDU Â GWOBR SIÂN PHILLIPS

16 September 2015

I’w chyflwyno yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru, 27 Medi

Datgelu’r derbynnydd yn y Parti swyddogol i Enwebeion heno, a gynhelir yn Sherman Cymru yng nghwmni Mali Harries, Rhian Morgan, Celyn Jones a Cath Ayres a’r cyfarwyddwr Ashley Way

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi datgelu mai Euros Lyn, y cyfarwyddwr ffilm a theledu uchel ei glod, fydd 11eg derbynnydd Gwobr Siân Phillips yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ar 27 Medi 2015, yn ôl cyhoeddiad ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru heno.

Mae Euros Lyn yn cael ei anrhydeddu â’r wobr – a noddir gan Lywodraeth Cymru – am fod yn Gymro sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol at wneud ffilmiau rhyngwladol neu raglenni teledu rhwydwaith.

Mae Parti Enwebeion BAFTA Cymru, lle y gwnaed y cyhoeddiad, yn dathlu’r enwebeion ar gyfer Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru sydd ar ddod ar draws y 28 categori ym maes cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghymru. Roedd y gwesteion a oedd yn bresennol yn cynnwys y cyfarwyddwr Ashley Way (The Bastard Executioner, Y Streic a Fi, Doctor Who); actor/awdur Celyn Jones (Set Fire to the Stars, Stella, Da Vinci’s Demons) yr actor Mali Harries (Hinterland, Critical, The Indian Doctor) a’r actor Rhian Morgan (Stella, TIR, Gwaith/Cartref), Mal Pope, Connie Fisher, enwebeion cerddoriaeth wreiddiol Richard James (Gorky’s Zygotic Monkey), Mark Thomas (Twin Town), y bard ac awdur Gwyneth Lewis a’r cyflwynydd Adam Price.

Dywedodd Euros Lyn: “Mae’n anrhydedd mawr dilyn ôl troed y talentog Rhys Ifans, Julie Gardner a Matthew Rhys, ac i dderbyn y wobr a enwyd er anrhydedd i Siân Phillips, yr arwres sgrin fwyaf i ddod o’m hardal i yng Nghwm Tawe." 

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i Euros Lyn, un o gyfarwyddwyr mwyaf llwyddiannus Cymru, a fydd yn derbyn Gwobr Siân Phillips yng Ngwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn ddiweddarach y mis hwn. Edrychwn ymlaen at ddathlu ei gyflawniadau sylweddol bryd hynny.

“Yn y cyfamser, mae’r Parti Enwebeion heno wedi bod yn gyfle i ddathlu cyflawniadau pob un o’n 82 o enwebeion. Mae’n achlysur gwych sy’n dwyn ynghyd gyfoeth o dalent i rwydweithio ac i ystyried ein sector ffilm a theledu yng Nghymru yn ei gyfanrwydd.”

Mae Gwobr Siân Phillips, a ddewisir gan Bwyllgor BAFTA Cymru, wedi’i dyfarnu’n flaenorol i Rhys Ifans, Russell T Davies, Michael Sheen, Ioan Gruffudd, Ruth Jones, Rob Brydon, Matthew Rhys, Robert Pugh, Julie Gardner a Jeremy Bowen. Hwn fydd y tro cyntaf i gyfarwyddwr dderbyn y wobr arbennig.

Mae Euros Lyn wedi ennill sawl gwobr am ei waith, gan gynnwys pum BAFTA am Gyfres Ddrama, tair Gwobr BAFTA Cymru am Gyfarwyddwr ac Emmy Rhyngwladol. Fe’i ganwyd yng Nghaerdydd a’i fagu yng Ngwynedd ac Abertawe. Ar ôl astudio drama ym Mhrifysgol Manceinion, dychwelodd i Gaerdydd lle y gweithiodd gyntaf fel cyfarwyddwr cynorthwyol, cyn cyfarwyddo sioeau yn cynnwys Pam Fi Duw, Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw, Gwyfyn a Belonging. Mae wedi cyfarwyddo sawl pennod o Doctor Who, gan gynnwys ‘The Girl in the Fireplace’ a enillodd Wobr Hugo, ac mae ei waith arall yn cynnwys Torchwood: Children of Earth, Sherlock, Last Tango In Halifax, Broadchurch, Black Mirror, Happy Valley a Daredevil. Mae ei brosiectau sydd ar ddod yn cynnwys Capital, addasiad byr o nofel John Lanchester ar gyfer y BBC, a The Library Suicides, ffilm ddial ias a chyffro i’w rhyddhau mewn theatrau. 

“Rydyn ni’n hapus iawn i noddi Gwobr Siân Phillips, sy’n cydnabod cyfraniad Cymru i gynyrchiadau ffilm a theledu rhyngwladol, a hoffwn longyfarch Euros Lyn ar ei lwyddiant.” Dywededd Gweinidog yr Economi Edwina Hart.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu twf ein diwydiannau creadigol; yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae’r nifer sy’n gweithio yn y diwydiant wedi mynd i fyny 58% rhwng 2005 a 2013. Mae bron i 50,000 o bobl yn gweithio yn y sector yn awr. Rydyn i’n ymfalchïo’n fawr yn hyn; cafwyd mwy o dwf yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig dros yr un cyfnod. Byddwn yn dal ati i gefnogi datblygiad y sector, gyda’r nod o ddenu mwy o gynyrchiadau drama rhyngwladol i Gymru a chynyddu sgiliau’r gweithwyr dawnus sydd gennym yn lleol, fel bod economi Cymru gyfan yn cael elwa.”

Daeth unigolion a chwmnïau sy’n cynrychioli’r cynyrchiadau enwebedig at ei gilydd ym Mharti Enwebeion BAFTA Cymru, a gynhaliwyd yn Sherman Cymru. Cefnogwyd y digwyddiad gan Siampên Taittinger ac, am yr ail flwyddyn, Stiwdios Pinewood Cymru. Mwynheuodd y gwesteion seidr arobryn o Gymru, gwin a chwrw gan gynhyrchwyr lleol a siampên gan bartner BAFTA, sef Siampên Taittinger.

Eleni, mae tocynnau ychwanegol ar gael i’r cyhoedd ar gyfer y seremoni, am bris o £20, sy’n cynnwys llyfryn Gwobrau argraffiad cyfyngedig a chynigion ar gyfer bariau a chlybiau lleol. Cyhoeddir manylion yr enwebeion a fydd yn bresennol ar 22 Medi.

Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Neuadd Dewi Sant ar 029 20 878444 / www.stdavidshallcardiff.co.uk