You are here

BAFTA Cymru a Tiny Rebel yn cyhoeddi partneriaeth newydd

10 July 2017
Tiny Rebel

Bragdy sydd wedi ennill gwobrau yn cynnig cwrw a digwyddiadau wrth ddod yn bartner swyddogol newydd i Wobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru

Heddiw, cyhoeddodd BAFTA Cymru a Bragdy Tiny Rebel bartneriaeth newydd fydd yn cynnig blas i fynychwyr Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru 2017, ar y cwrw, sydd wedi ennill gwobrau, o’r bragdy yng Nghasnewydd

Mae Tiny Rebel yn fusnes teuluol a sefydlwyd yn 2012, a gaiff ei redeg gan Brad Cummings a Gazz Williams o Gasnewydd. Yn addas iawn, mae eu holl gwrw wedi ei ysbrydoli gan ffilmiau, diwylliant y byd pop a graffiti trefol.

Meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda Tiny Rebel fel ein Partner Swyddogol am y flwyddyn nesaf. Mae ethos Tiny Rebel, o gyflwyno arloesedd o Gymru i’r byd a chefnogi pobl ifanc yng Nghymru, yn agos at ein calonnau ac yn uchelgais yr ydym yn ei rhannu. Mae’r ffaith fod eu cwrw’n blasu’n ardderchog ac y bydd yn ychwanegu at fwynhad ein gwesteion yn y parti ar ôl Gwobrau Cymru eleni yn amlwg yn fonws!”

Mae disgwyl i’r bragdy gynnig amrywiaeth o’u cwrw enwog, sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn y parti ar ôl y seremoni mewn lleoliad newydd, cyffrous fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Awst.

Gwnaed y cyhoeddiad i aelodau BAFTA Cymru mewn noson rhwydweithio arbennig, y cyntaf o nifer a gynhaliwyd ym mar Tiny Rebel yng Nghaerdydd. Cafodd y gwesteion gynnig blasu cwrw amrywiol y bragdy mewn digwyddiad preifat a fynychwyd hefyd gan enillwyr ac enwebeion BAFTA, aelodau a gwesteion arbennig.

Meddai Brad Cummings, cyd-berchennog Tiny Rebel: “Rydym yn edrych ymlaen at weld ble fydd y bartneriaeth hon yn ein harwain. Rydym yn hoff iawn o gemau a ffilmiau ac wrth ein bodd i fod yn rhan o’r diwylliant o hwyl a chreadigrwydd yng Nghymru.”

Cynhelir Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn Neuadd Dewi Sant ar 8 Hydref, a bydd y tocynnau’n mynd ar werth ar 25 Awst.  Cyhoeddir enwau’r rhai sydd wedi eu henwebu ar 1 Medi. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.bafta.org/wales a www.TinyRebel.co.uk