You are here

Edrychwch Pwy sydd yna...

6 January 2014
BAFTA Cymru

Cafwyd aelodau BAFTA Cymru ymweliad gan Y Doctor pan ddaeth Peter Capaldi i’r rhag dangosiad o Sherlock (cyfres 3, pennod 2) ar ddydd Sul 5 Ionawr, yn Chapter, Caerdydd.

Roedd sesiwn cwestiwn ac ateb wedi ei gadeirio gan Boyd Hilton (cylchgrawn Heat) yn dilyn y dangosiad gyda chyd grewyr Steven Moffat a Mark Gatiss; Colm McCarthy (cyfarwyddwr pennod 2) a Sue Vertue o Hartswood Films.

Roedd nifer cyfyngedig o dicedi ar gael i’r cyhoedd ac roedd y digwyddiad wedi gwerthu allan o fewn 15 munud yn atynnu cefnogwyr Sherlock byd eang yn cynnwys, Japan, Yr Almaen a Sbaen.

Wedi ei gynhyrchu yng Nghymru gan BBC 1 a Hartswood Films, mae’r ddrama fodern sydd wedi ei gyd-greu gan Steven Moffat a Mark Gattis yn ail-ddychmygu clasur Arthur Conan Doyle. Mae’r ddrama wedi creu cyffro ers iddo gael ei ddarlledu am y tro cyntaf yn ôl yn yr Haf 2010, mae wedi ennill 7 Gwobrau BAFTA Cymru ac yn cael ei wylio gan dros 10 miliwn o bobl.