You are here

PABELL SINEMAES YN CROESAWU MWY O BOBL NAG ERIOED O’R BLAEN I FWYNHAU FFILM A THELEDU YN YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

11 August 2018
Event: Sinemaes at National Eisteddfod of Wales Venue: Cardiff BayDate: Saturday 4th August 2018 – Saturday 11th August 2018BAFTA / Rosie Jones

41 digwyddiad a 45 o siaradwyr yn ymgynnull i ddathlu dros wyth diwrnod

Yr uchafbwyntiau’n cynnwys digwyddiad yng nghwmni Rhys Ifans

Mae BAFTA Cymru’n dathlu diwedd trydedd flwyddyn lwyddiannus o’r bron yn cynnal dathliad o ffilm a theledu o Gymru mewn sinema mewn tipi yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Bu 3, 300 o bobl yn mwynhau’r rhaglen yn Sinemaes, sef 36% yn fwy na llynedd. Cynhaliwyd digwyddiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru a’r Eglwys Norwyaidd yn ogystal â’r tipi.

“Yn sgil llwyddiant digwyddiadau blaenorol ac oherwydd bod y diddordeb y niferoedd yn uwch na allai’r gofod ei ddal, mi fuon ni’n cydweithio â’r Eisteddfod i adleoli ambell ddigwyddiad i leoliadau eraill gerllaw,” meddai Hannah Raybould yn BAFTA Cymru.

“Cynhaliwyd tri dangosiad mawr yn yr Eglwys Norwyaidd - premiere byd-eang Anorac, rhaglen ddogfen gerddoriaeth newydd gan Huw Stephens, rhagddangosiad o bennod o gyfres newydd Byw Celwydd, enwebai BAFTA Cymru, er cof am yr awdur Meic Povey, a fu farw yn gynharach eleni, a dangosiad o ffilm animeiddio hynaf y DU, Jerry the Tyke, a wnaethpwyd gan dafluniwr o Gaerdydd i Pathé yn y 1920au gyda sgôr fyw gan Arad Goch.”

Ymhlith uchafbwyntiau eraill yr wythnos, roedd sesiwn holi ac ateb gyda Rhys Ifans gan Into Film Cymru, cyflwyno gwobr arbennig i’r darlledwr o fri Euryn Ogwen Williams, dangosiadau gorlawn o glasur o’r 80au, SuperTed, a dangosiadau dyddiol o gasgliad newydd o ffilmiau o’r archif ar daith drwy drefi a dinasoedd Cymru o’r 1920au i’r 1990au.

Prif thema Sinemaes eleni oedd talent newydd, a chafodd y gynulleidfa gyfle i ddarganfod talent newydd o Gymru ar y sgrin drwy gyfrwng cyfres o ffilmiau byrion, gan gynnwys rhai a wnaethpwyd gan fyfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru drwy gynllun ‘It’s My Shout’, ffilmiau a ddaeth i’r brig yng ngŵyl PICS, gan ddangos doniau creadigol plant ysgol, a mwy.

Sinemaes queueMi gynhaliwyd nifer o sesiynau trafod yn ystod yr wythnos hefyd. Bu un panel yn trafod comedi ar y teledu, un arall yn asesu ‘oes aur’ gyfredol drama deledu yng Nghymru, ac un arall yn archwilio datblygu archif ehangach gan y BBC yng Nghymru. Cynhaliwyd digwyddiadau hefyd i ddathlu gwaith a bywyd yr actores Iola Gregory, y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Richard ‘Dic’ Lewis, a dangosiad ugainmlwyddiant o’r ffilm Porc Pei er cof am Trefor Selway. Un trafodaeth pobolgaidd iawn oedd cyn rhag-ddangosiad o bennod nesaf Pobol y Cwm, yng nghwmni rhai o brif actorion y gyfes sebon.

Daeth Sinemaes i fod fel dathliad blynyddol o waddol Cymru ar y sgrin, yn ogystal â meithrin diddordeb mewn gyrfaoedd yn niwydiant y cyfryngau creadigol. Eleni, byddwn ni’n cloi’r wythnos gyda sesiwn holi ac ateb arbennig iawn gyda’r cyfarwyddwr Marc Evans, enillydd nifer fawr o wobrau BAFTA Cymru.