You are here

Y CYFARWYDDWR SYDD WEDI ENNILL BAFTA, AMMA ASANTE, YN DYCHWELYD I GYMRU LLE Y DECHREUODD Y CYFAN YN RHAN O DAITH ‘DECHREUADAU’ BAFTA

4 July 2017
Brits to Watch - Amma Asante's BELLE

Bydd cyfarwyddwr Belle ac A United Kingdom yn dod i ddangosiad arbennig i dalu teyrnged i’r cynhyrchwr o Gymru, Peter Edwards

 Bydd Amma Asante yn siarad am sut y gwnaed ei ffilm nodwedd gyntaf, A Way of Life, yn Ne Cymru

 

Heddiw, cyhoeddodd yr Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, a Chanolfan Gelfyddydau Chapter y bydd yr enillydd BAFTA, Amma Asante, yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb arbennig yn dilyn dangosiad o’i ffilm nodwedd gyntaf A Way of Life sydd wedi ennill BAFTA. 


Cynhelir y digwyddiad ddydd Mercher 12 Gorffennaf am 6pm ac mae tocynnau cyhoeddus ar gael o Chapter


Bydd yr awdur/cyfarwyddwr mawr ei chlod yn dychwelyd i Gaerdydd 14 blynedd ar ôl i’r ffilm gael ei gwneud yn Ne Cymru i ddathlu cyfraniad cynhyrchwr y ffilm, sef Peter Edwards, a fu farw yn 2016.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn rhan o’r daith ffilmiau Dechreuadau BAFTA, sy’n dangos saith ffilm nodwedd gyntaf sydd wedi ennill BAFTA, gan gyfarwyddwyr Prydeinig blaenllaw, mewn sinemâu ac ysgolion ledled y Deyrnas Unedig tan fis Tachwedd. Mae’r daith, sy’n rhan o ddathliadau 70 mlynedd BAFTA, yn cael ei chefnogi gan Sefydliad Ffilm Prydain (y BFI) a Chronfa Dreftadaeth y Loteri (y mae’r ddau’n dyfarnu arian o’r Loteri Genedlaethol), y Swyddfa Sinema Annibynnol ac Into Film. Mae manylion holl ddangosiadau Dechreuadau BAFTA ar gael yn: https://www.bafta.org/film/bafta-debuts.

Dywedodd Pippa Harris, Cadeirydd Pwyllgor Ffilmiau BAFTA: “Mae’r ffilmiau cyntaf hyn sydd wedi ennill BAFTA yn cynrychioli’r amrywiaeth ryfeddol o ddoniau cyfarwyddo a ddaeth i’r amlwg ym Mhrydain yn y 1990au hwyr ac ar ddechrau’r ganrif hon. Mae eu gwaith cynnar yn dangos eu sgiliau unigryw a’u potensial aruthrol, ac maen nhw i gyd wedi mynd ymlaen i fwynhau rhagor o lwyddiant. Rydym ni’n falch iawn o roi cyfle i gynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig weld y ffilmiau hyn ar y sgrîn fawr, ac mewn ysgolion, ac i glywed gan y gwneuthurwyr ffilmiau rhyfeddol hyn yn rhan o’n dathliadau 70 mlynedd.”

Enillodd ffilm nodwedd gyntaf Amma Asante, sef A Way of Life (2004), 17 gwobr ryngwladol yn ogystal â Gwobr Newydd-ddyfodiad yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain y BFI, Gwobrau’r Southbank Show a Gwobr Artist Newydd y Flwyddyn ‘The Times’. Yn 2005, enillodd Wobr Carl Foreman BAFTA am Gyflawniad Arbennig gan awdur/cyfarwyddwr yn ei ffilm nodwedd gyntaf, yn ogystal â Gwobr BAFTA Cymru yn y categori Cyfarwyddwr: Drama. Ei hail ffilm nodwedd, Belle, oedd un o’r ffilmiau annibynnol mwyaf llwyddiannus yn 2014. Dangoswyd ffilm ddiweddaraf Amma, sef A United Kingdom, gyda David Oyelowo a Rosamund Pike yn chwarae’r prif rannau, yng Ngala Noson Agoriadol Gŵyl Ffilmiau Llundain 2016 y BFI, sy’n golygu mai hi oedd y wneuthurwraig ffilmiau groenddu gyntaf i agor yr Ŵyl. Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Rydym ni’n edrych ymlaen at noson arbennig iawn i ddathlu cyflawniadau niferus Amma, gan gynnwys ei ffilm gyntaf a wnaed yma yng Nghymru, yn ogystal â thalu teyrnged i gynhyrchwr y ffilm, sef Peter Edwards mawr ei barch. Bydd y sesiwn holi ac ateb yn cael ei harwain gan Pauline Burt o Ffilm Cymru Wales ac rydym ni’n gwahodd edmygwyr Amma a Peter i ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.”