You are here

Edrych ymlaen at uchafbwyntiau Sinemaes 2017

31 July 2017

Ail flwyddyn Sinemaes yn addo 47 digwyddiad a 50 siaradwr gwadd

Cynnwys Sinemaes i’w ffrydio’n fyw ochr yn ochr â digwyddiadau ymylol i ehangu cyrhaeddiad

Heddiw, mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig (BAFTA) yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, a phartneriaid strategol, wedi cadarnhau uchafbwyntiau rhaglen yr ail Sinemaes – y babell sinema boblogaidd iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn dilyn llwyddiant y Sinemaes cyntaf, a ddenodd gynulleidfa o ychydig dros 2000 o bobl yn yr Eisteddfod yn y Fenni y llynedd, mae’r trefnwyr yn addo hyd yn oed mwy o gyfleoedd i’r rhai sy’n dod i’r ŵyl a phobl o’r ardal leol ddathlu ffilm a theledu o Gymru.

Mae’r siaradwyr gwadd a fydd yn cymryd rhan yn rhaglen yr wythnos yn cynnwys yr actorion Julian Lewis Jones (Y Gwyll/Hinterland, Justice League, Stella); Aneirin Hughes (Y Gwyll/Hinterland, Pobol y Cwm, Under Milk Wood); Morfudd Hughes (Pobol y Cwm, Y Gwyll/Hinterland, Branwen); Huw Garmon (Rownd a Rownd, Pobol y Cwm, August, Hedd Wyn, Coronation Street); Catrin Mara (Albi a Noa, Pobol y Cwm, Casualty), yn ogystal â phobl ddawnus ym maes cynhyrchu, fel y cyfarwyddwr Lee Haven Jones (35 Diwrnod, Vera, Shetland).

Bydd yr uchafbwyntiau’n cynnwys 3 digwyddiad teyrnged, gan gynnwys aduno cast y gyfres blant glasurol o’r 1970au, sef Miri Mawr, er mwyn talu teyrnged i’r cynhyrchwr a anwyd yn Ynys Môn, y diweddar Peter Elias Jones; dangos y ffilm Branwen a ryddhawyd ym 1995 er teyrnged i’r diweddar JO Roberts, a dangos Pum Cynnig i Gymro er cof am gynhyrchwr y gyfres, y diweddar Peter Edwards.

Bydd penodau cyntaf rhai o raglenni teledu newydd S4C yn cael eu dangos hefyd. Bydd y canwr opera Rhys Meirion yn cyflwyno pennod gyntaf ei gyfres newydd o ‘Deuawdau Rhys Meirion’ cyn iddi gael ei darlledu ar y teledu ym mis Medi; bydd cyfres newydd Deian a Loli i blant yn cael ei dilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda’r cast ifanc, a ffilm fer newydd i blant, sef Elen, a ysgrifennwyd gan yr actores a’r gantores Lisa Jên Brown.

Bydd gweithgareddau eraill cyffrous i blant yn cynnwys gweithdy gydag Into Film Cymru, lle y bydd grŵp o wneuthurwyr ffilmiau dechreuol yn gwneud ffilm am yr Eisteddfod mewn un diwrnod a fydd yn cael ei dangos y prynhawn hwnnw, yn ogystal â gweithdy gyda’r animeiddiwr Huw Aaron, a fydd yn cynnig cyfle i bobl ifanc greadigol greu eu harcharwr eu hunain.

Bydd y dangosiadau hefyd yn cynnwys naw ffilm o’r archif (y bydd rhai ohonynt ar gael gydag is-deitlau), gan gynnwys dangosiad arbennig o Earth, i gyfeiliant perfformiad cerddorol gan R Seiliog. Bob dydd, bydd Canolfan Ffilm Cymru yn dangos ffilmiau o’r 1920au-1960au o Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru sy’n rhan o gasgliad ar-lein y BFI Britain on Film: Coast and Sea. O ganlyniad i boblogrwydd y dangosiadau archif yn 2016, bydd cyfle ychwanegol bob dydd i wylio’r ffilmiau hyfryd hyn gyda thraciau sain newydd.

Bydd trafodaethau a dadleuon yn cynnwys dathlu cyfres amaethyddol boblogaidd S4C, sef Ffermio, a’r opera sebon Rownd a Rownd, yn ogystal â gyrfa’r darlledwr Hywel Gwynfryn wrth i Radio Cymru ddathlu 40 mlynedd o ddarlledu. Bydd dyfodol darlledu digidol yng Nghymru yn destun trafodaeth banel a gadeirir gan TAC.

Bydd yr wythnos yn dod i ben trwy ddarllen sgript ffilm nodwedd Gymraeg newydd a dangos Fideo Hud i gyfeiliant - fideos cerddoriaeth archif wedi’u curadu a’u perfformio gan wneuthurwyr ffilmiau ifanc o Off Y Grid.

Diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, bydd Sinemaes yn cynnig digwyddiadau ymylol di-Gymraeg am y tro cyntaf, gan gynnwys dangos Their Finest yn Ucheldre yng Nghaergybi a chynnal gweithdy actio ar gyfer y sgrin yn Llangefni. Bydd llawer o’r sesiynau holi ac ateb yn cael eu ffrydio’n fyw ar dudalen Facebook Sinemaes hefyd ar gyfer y rhai na allant gyrraedd y Maes eleni.

Gallwch gael mynediad i holl ddigwyddiadau Sinemaes yn rhad ac am ddim pan fydd gennych docyn Eisteddfod, a neilltuir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin. Gellir gweld y rhaglen lawn yn www.bafta.org/wales/sinemaes