Ar Fehefin 10, bydd BAFTA Cymru yn cyd-gynnal y dangosiad cyntaf yn Efrog Newydd o ffilm Cymreig Set Fire to the Stars mewn digwyddiad arbennig a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, Croeso Cymru, Conswl Cyffredinol Prydain yn Efrog Newydd, Strand Releasing,Cymdeithas Dewi Sant Talaith Efrog Newydd a Mad as Birds Films.
Bydd y dangosiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau y ffilm Set Fire to the Stars, gyda Elijah Wood a Celyn Jones, yn cynnig i gynulleidfa gwadd o'r diwydiant weld y ffilm newydd hon, a chael sesiwn holi ac ateb gydag actorion Elijah Wood a Celyn Jones, Cyfarwyddwr Andy Goddard a'r Cynhyrchydd Andy Evans.
Wedi ei ffilmio yn gyfan gwbl ar leoliad yng Nghymru, mae Set Fire to the Stars yn ffilm du-a-gwyn 'modern clasurol' a osodwyd yn y 1950au Efrog Newydd lle mae aelod staff dysgu Harvard - y darpar-bardd John M. Brinnin (Wood) yn cychwyn ar encil wythnos o hyd i achub ei arwr, y bardd Cymreig enwog Dylan Thomas (Jones).
"Yn Set Fire to the Stars mae'r cyfarwyddwr Cymreig Andy Goddard yn anadlu bywyd i un o feirdd enwocaf - a didostur - yr ugeinfed ganrif " Miami New Times.
Mae'r sesiwn C&A, a gynhaliwyd gan Blaine Graboyes o 'r Producers Guild of America, yn gyfle i hyrwyddo'r lleoliadau gwych, gwasanaethau, cast a chriw o Gymru.
I weld mwy am y ffilm cliciwch yma yma
Cefnogwyd gan: