You are here

BAFTA Cymru yn lansio cyfres o ddigwyddiadau ar-lein rhad ac am ddim yn cynnwys sioeau teledu a thalent a enwebiwyd am wobr BAFTA

29 September 2020
Cymru SessionsBAFTA

Bydd Adrian Bate, Caroline McCall, Hanna Jarman, Jane Tranter, Kayleigh Llewellyn, Ray Holman, Russell T Davies, Siân Jenkins, Tracie Simpson a mwy i’w cyhoeddi yn ymuno â Gwobrau Cymru: Y Sesiynau 2020 fis Hydref

Mae tocynnau rhad ac am ddim ar gael nawr yn events.bafta.org

 

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi pwy fydd yn cymryd rhan yn Gwobrau Cymru: Y Sesiynau, sef cyfres o ddigwyddiadau yn dathlu’r unigolion a’r rhaglenni a enwebwyd am Wobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru.

Dyma’r tro cyntaf i’r digwyddiadau hyn gael eu cynnal yng Nghymru, ac maen nhw’n dilyn yr un drefn â’r Sesiynau Teledu poblogaidd a gynhaliwyd cyn Gwobrau Teledu’r Academi Brydeinig.

Bydd paneli o enwebeion ac arbenigwyr o’r diwydiant yn rhoi cipolwg ar eu crefft a’r rhaglenni a’r ffilmiau enwebedig maen nhw wedi gweithio arnynt, gan gynnwys Eternal Beauty, Fleabag, His Dark Materials, In My Skin, Keeping Faith/Un Bore Mercher, Merched Parchus, The Left Behind a Years and Years.

Cynhelir Gwobrau Cymru: Y Sesiynau ar sianel Zoom BAFTA o 12-23 Hydref ac mae’r gweithgaredd ar agor i westeion o’r diwydiant a’r cyhoedd. Mae tocynnau ar gael nawr, yn rhad ac am ddim, yn events.bafta.org.

Yn flaenorol, cynhaliwyd Sesiynau Gwobrau Teledu BAFTA fel un diwrnod o ddigwyddiadau a sgyrsiau yn y fan a’r lle yn BAFTA Llundain. Eleni, mae BAFTA wedi addasu’r fformat er mwyn cynnal y sesiynau’n ddigidol, yn unol â chyfyngiadau’r Llywodraeth. Bydd Gwobrau Cymru: Y Sesiynau yn dilyn y fformat newydd hwn hefyd. Trefnwyd i’r gyfres o ddigwyddiadau a chynnwys cymdeithasol ddigwydd yn ystod y diwrnodau cyn i seremoni Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru gael ei darlledu ar 25 Hydref am 7pm ar sianeli Twitter, YouTube a Facebook BAFTA Cymru.

Mae Gwobrau Cymru: Y Sesiynau, sydd ar agor i’r cyhoedd, yn caniatáu i gynulleidfaoedd dreiddio i fyd eu hoff gynnwys, gan gynnig cipolwg ar grefft creu ffilmiau a theledu, gyda straeon o’r tu ôl i’r llenni. Gwahoddir siaradwyr gwadd i drafod eu gwaith a rhoddir cyfle i aelodau’r gynulleidfa ofyn cwestiynau. Bydd y sesiwn awduron, yn arbennig, yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd glywed gan Russell T Davies, cyn enillydd sydd wedi cael ei enwebu 20 gwaith, yn trafod ei grefft, ynghyd â Kayleigh Llewellyn a Hanna Jarman, sydd wedi’u henwebu am y tro cyntaf.

Mae uchafbwyntiau presennol amserlen y digwyddiad yn cynnwys sesiynau lle y bydd Russell T Davies, Kayleigh Llewellyn a Hanna Jarman yn trafod ysgrifennu; Ray Holman, Caroline McCall a Siân Jenkins yn trafod dylunio gwisgoedd; a Jane Tranter, Adrian Bate a Tracie Simpson yn trafod cynhyrchu drama deledu.

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Rydym yn gyffrous iawn ynglŷn â chynnal y Sesiynau’n rhithwir eleni ac, am y tro cyntaf, yn gysylltiedig â Gwobrau Cymru, sy’n caniatáu i ni gynnig rhaglen ehangach o ddigwyddiadau nag erioed o’r blaen i ddathlu ac arddangos rhai o’n henwebeion. Mae’n gyfle gwych i glywed yn uniongyrchol gan y meddyliau creadigol sy’n gwneud y ffilmiau a’r rhaglenni teledu y mae pobl yn eu caru. Llongyfarchiadau unwaith eto i’n holl enwebeion!”

Rhoddir amserlen y digwyddiad isod, a bydd mwy o weithgareddau’n cael eu cyhoeddi. Mae tocynnau rhad ac am ddim ar gael nawr o events.bafta.org.

Amserlen Ddigwyddiadau GWOBRAU CYMRU: Y SESIYNAU 2020:

Crefft Dylunio Gwisgoedd

Dydd Llun 12 Hydref
18:30 – 19:30

Cyfle unigryw i glywed gan enwebeion eleni yn y categori Dylunio Gwisgoedd wrth iddynt drafod eu gwaith a enwebwyd am wobr.

Siaradwyr:

CAROLINE MCCALL (His Dark Materials)
RAY HOLMAN (Fleabag)
SIAN JENKINS (Eternal Beauty)
Wedi ei gynnal gan Linda Haysman


Creu Bydoedd: Ysgrifennu

Dydd Iau 15 Hydref
18:30-19:30

Cyfle i glywed gan enwebeion eleni yn y categori Awdur, wrth iddynt rannu eu meddyliau am eu crefft a thrafod eu gwaith a enwebwyd am wobr – sy’n rhychwantu amrywiaeth o themâu.

Siaradwyr:

HANNA JARMAN (Merched Parchus)
KAYLEIGH LLEWELLYN (In My Skin)
RUSSELL T DAVIES (Years and Years)


Gwneud Drama Deledu

Dydd Mercher 21 Hydref
18:00 – 19:00

Ymunwch â ni ar gyfer trafodaeth fanwl gyda’r cynhyrchwyr sy’n gyfrifol am enwebiadau eleni yn y categori Drama Deledu. Byddwn yn trafod y broses greadigol a’r heriau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu drama lwyddiannus. 

Siaradwyr:

Adrian Bate, Cynhyrchydd Gweithredol (Keeping Faith/ Un Bore Mercher)
Jane Tranter, Cynhyrchydd Gweithredol (His Dark Materials)
Nerys Evans, Cynhyrchydd Gweithredol (In My Skin)
Tracie Simpson, Cynhyrchydd (The Left Behind)
Cynhaliwyd gan Clare Hudson