You are here

BAFTA Cymru yn annog talent newydd o bob cwr o Gymru i gymryd rhan yng Ngwyl Guru Live Caerdydd

27 February 2019
Guru Live Cardiff bursary pic

Bydd yr ail ŵyl undydd yn cynnig cyngor ymarferol ar gyfleoedd ar lawr gwlad i rai o bob cefndir a lleoliad

Bwrsariaethau ar gyfer costau teithio bellach ar gael

Rydym wedi cyhoeddi heddiw eu bod yn rhoi cymorth ychwanegol i helpu pobl o bob cefndir a lleoliad ledled Cymru i gymryd rhan yn eu gŵyl undydd flaenllaw, Guru Live Caerdydd, ar 30 Mawrth.

Mae’r ŵyl yn cynnig cyngor ymarferol ar yrfaoedd yn y diwydiant ffilm, gemau a theledu trwy ddosbarthiadau meistr, gweithdai, trafodaethau bord gron a chyfle i unigolion gwrdd â gweithwyr creadigol proffesiynol a’u cymheiriaid.

Bydd y digwyddiad yn adeiladu ar y rhaglen ddigwyddiadau y mae BAFTA Cymru’n ei chynnig trwy gydol y flwyddyn, y cynhaliwyd 38% ohonynt y tu allan i Gaerdydd yn 2018.

Mae tocynnau i’r sesiynau wedi cael cymhorthdal a chael eu gostwng i £10 am ddwy sesiwn neu £6 am un sesiwn. Cynlluniwyd y digwyddiad er mwyn dechrau a gorffen ar amseroedd sy’n caniatáu i bobl deithio yno o bob cwr o Gymru, a gwahoddir y rheiny sy’n dymuno mynychu a chael gwybodaeth ac ysbrydoliaeth, ond sy’n profi rhwystrau ariannol rhag gwneud hynny, i wneud cais am fwrsariaethau a fydd yn cynnig hyd at £80 tuag at gostau teithio a 5 sesiwn yn rhad ac am ddim.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:

“Mae BAFTA Cymru yn ymrwymo i helpu pobl o bob cefndir a rhannau o Gymru i ganfod eu lle yn y diwydiant cyfryngau creadigol os dyna yw eu nod.

Dangosodd y ‘BFI Workforce Diversity in the UK Screen Sector Evidence Review’ diweddar fod pobl ifanc mewn lleoliadau sy’n llai ffyniannus yn economaidd neu sydd â llai o gyflogwyr diwydiannau creadigol yn llai tebygol o ystyried gyrfa greadigol fel opsiwn ymarferol am ddau reswm.

Yn gyntaf, mae llai o weithgarwch diwydiannau creadigol lleol ac, felly, llai o gyswllt â’r math penodol hwn o gynhyrchu economaidd, yn arwain at feddwl nad yw gyrfaoedd yn y meysydd hyn yn darparu cyflogaeth ddigon sefydlog. Yn ail, roedd pobl ifanc o fannau gwag y diwydiannau creadigol yn teimlo y byddant yn cael problemau hygrededd wrth geisio sefydlu gyrfa greadigol yn rhywle arall.

Rydym yn awyddus i chwarae rôl fechan yn y gwaith sy’n cael ei wneud gan nifer o’n partneriaid yn y diwydiant i bontio’r bwlch hwn trwy gynnig cymorth i bobl ledled Cymru fynychu Guru Live i gyfarfod a chlywed gan dalentau a gydnabyddir gan BAFTA, a pharhau i ymgysylltu â nhw trwy ein rhaglen ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ledled y wlad ac ar-lein.”

Y dyddiad cau er mwyn ymgeisio fydd 15 Mawrth.

Gofynnir i’r rhai sydd â diddordeb lenwi ffurflen gais syml ar-lein.

Gwirio cymhwysedd

Hoffai BAFTA Cymru gefnogi unigolion na fyddant yn gallu mynychu Guru Live Caerdydd fel arall trwy roi cymorth ariannol tuag at gostau teithio.

  • Mae hyd at £80 y pen ar gael ar gyfer teithio ar drên neu fws, a byddwn yn archebu hyn i chi o flaen llaw
  • Bydd costau milltiredd yn cael eu had-dalu ar gyfradd o 35c y filltir, hyd at £80
  • Rhaid i chi fod ar gael i gymryd rhan yn nigwyddiad Guru Live Caerdydd os cewch eich dewis (rhwng 11:30 a 18:30 ddydd Sadwrn 30 Mawrth 2019)
  • Bydd y rhai sy’n derbyn bwrsariaeth yn gallu cadw lle mewn uchafswm o 5 sesiwn yn rhad ac am ddim (gan ddibynnu ar a oes lleoedd ar gael).
  • Nid yw costau llety a bwyd yn cael eu cynnwys.
  • Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 15 Mawrth, 12pm.

Mae’r ceisiadau’n agored i unrhyw un:

  • Dros 16 oed
  • Sy’n byw yng Nghymru

Sylwer y rhoddir blaenoriaeth i’r rheiny â nodweddion gwarchodedig, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant neu rhai yn byw tu allan i god post CF


I wneud cais ewch i apply.bafta.org