You are here

Journey’s End yn cyrraedd Cymru ar gyfer y dangosiad cyntaf

23 November 2017
journeys end HODs and asa butterfieldPolly Thomas

Cafodd Journey’s End, ffilm deimladwy o Gymru sy’n seiliedig ar y ddrama glasurol gan  R. C. Sherriff, ei dangos am y tro cyntaf ar 23 Tachwedd mewn dangosiad arbennig gan Sgrîn Cymru / BAFTA Cymru yng Nghaerdydd. 

Yn cynnwys yr actorion sy’n adnabyddus ledled y byd, Sam Claflin, Paul Bettany, Toby Jones ac Asa Butterfield, ac wedi’i gosod yn 1918 ar y ffrynt yn y ffosydd, mae’r ffilm wedi ei dangos eisoes yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto ac yng Ngŵyl Ffilm BFI Llundain, ymysg eraill, ond dyma fydd y tro cyntaf iddi gael ei dangos yng Nghymru. 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Mae’n wych gweld Journey’s End yn cael ei dangos yma yng Nghymru, sy’n hynod amserol wrth inni nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. 

“Dwi’n falch iawn o fod wedi cefnogi cynhyrchiad safonol arall yng Nghymru, gan hybu economïau rhanbarthol a swyddi lleol tra’n hyrwyddo Cymru fel lle gwych i weithio ynddi, ymweld â hi a ffilmio ynddi. 

“Mae’r ffilm yn adlewyrchu yr hyn fu eisoes yn flwyddyn hynod brysur a llwyddiannus i Sgrîn Cymru a thîm ein Sector Creadigol, gyda dros £41 miliwn wedi’i wario ar gynhyrchu yng Nghymru – sy’n dystiolaeth o’r sgiliau sydd gennym ar garreg ein drws, a statws Cymru bellach o fewn y Sector.” 

Meddai yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Gweinidog Diwylliant: 

“Mae Cymru yn parhau i wneud yn llawer gwell na’r disgwyl ym maes cynhyrchu teledu a ffilm o safon uchel. 

“Mae Cymru wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar i ddarparu dramâu a ffilmiau o’r safon uchaf un, gyda Sherlock, Doctor Who, Da Vinci’s Demons a Born to Kill, ymysg eraill, wedi eu gwneud yma yng Nghymru. 

“Dwi’n falch o ddweud, heddiw, ein bod yn gallu ychwanegu Journey’s End at y rhestr honno, ac yn edrych ymlaen at ei gweld yn y sinemâu  ym mis Chwefror.” 

Trwy ddangos y ffilm heno, bydd aelodau BAFTA a gwahoddedigion yn cael y cyfle i weld y ffilm cyn ei rhyddhau, meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ddangos y ffilm newydd hon a gafodd ei ffilmio ar leoliad ac yn Pinewood Studios yng Nghymru, oedd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr o brifysgolion lleol.  Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’n hysbryd o ddathlu cynnwys o Gymru.  Bydd yn ben llanw blwyddyn o ddigwyddiadau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau creadigol sydd â diddordeb gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu yma yng Nghymru.”