Cyflwynodd BAFTA Cymru a PRS for Music gyfle cyffrous i 6 cyfarwyddwr newydd fynychu digwyddiad Cymysgu Cyfansoddwyr / Cyfarwyddwyr.
Daeth y digwyddiad cymysgu â 6 cyfarwyddwr newydd a 6 cyfansoddwr newydd at ei gilydd yn y gobaith o adeiladu cydweithrediadau yn y dyfodol. Yn y sesiwn rhwydweithio cyflym gyffrous hon, cafodd y cyfansoddwyr a'r cyfarwyddwyr gyfle i gwrdd a thrafod eu prosiectau fesul un, cyfle i ymarfer pitchio a ffurfio perthnasoedd gweithio newydd ar gyfer unrhyw brosiectau sydd ar y gweill.