Ar Ddydd Llun 8 Gorffennaf 2019, cafodd BBC Cymru a BAFTA Cymru y pleser mawr o gyd-gynnal y ddangoiad cyntaf o bennod gyntaf yr ail gyfres o Keeping Faith. Roedd y gwesteion ymhlith y cyntaf i weld Faith yn ymladd i gadw ei theulu gyda'i gilydd, ei busnes ar ei thraed a'i ffrind allan o'r carchar…
Daeth sêr y sioe Eve Myles (Faith Howells), Bradley Freegard (Evan Howells) a Mark Lewis Jones (Steve Baldini) i'r dangosiad, ynghyd â rhai o'r cast, y crewyr a'r tîm cynhyrchu. Cynhaliwyd y sesiwn holi ac ateb gan Carol Vorderman.