Ddydd Llun 2 Medi 2019 yng Chapter, fe wnaethom gynnal dangosiad rhagolwg o Pili Pala, drama newydd gan S4C gyda Sian Reese-Williams (Craith / Hidden) yn serennu cyn iddi gael ei darlledu yn ddiweddarach y mis hwn.
Ar y panel Holi ac Ateb cawsom Nora Ostler Spiteri (Cynhyrchydd), Phil Rowlands (Awdur), Claire Winyard (Cyfarwyddwr), Rhys Ap Trefor (Actor) a Dr Bryan Beattie (Obstetregydd Ymgynghorol) mewn sgwrs â Roger Williams (Bang).