Ar ddydd Mercher 27 Tachwedd fe wnaethom gynnal noson arbennig gyda’r actor Taron Egerton, enwebai 2016 EE BAFTA Rising Star (Rocketman, Kingsman, Eddie the Eagle, Sing) yn BAFTA Piccadilly yn Llundain.
Cynhaliwyd y sgwrs gan yr actor arobryn 2019 Gwobrau BAFTA Cymru, Celyn Jones, a siaradodd â Taron am ei yrfa anhygoel hyd yn hyn.
Roedd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.