Ar Ddydd Mawrth 17 Hydref, gwnaethom gynnal noson gyda'r actor buddugol BAFTA Cymru, Mark Lewis Jones, i staff a myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, aelodau Into Film Cymru a BAFTA Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ystafelloedd Darllen hardd, rhan o adeilad Cyfnewid Dylunio ALEX yn Abertawe.