Ar Ddydd Mercher 10 Gorffennaf cynhaliwyd rhagolwg a sesiwn holi ac ateb o'r ffilm gothig Gwen yn Pontio, Bangor - ger y fan lle cafodd y ffilm ei saethu ar leoliad yn Eryri. Roedd y panel Holi ac Ateb yn cynnwys William McGregor (awdur/cyfarwyddwr), Hilary Bevan Jones (cynhyrchydd) ac Eleanor Worthington Cox (actores) gyda eraill o’r cast ifanc. Cynhaliwyd y sesiwn holi ac ateb gan Pauline Williams.
Yn gynharach y diwrnod hwnnw cynhaliom sesiwn Gyrfa Glyfar. Mae ein digwyddiadau Gyrfa Glyfar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a dechreuwyr gyrfa i glywed am ddatblygiad gyrfa unigolion mewn rolau allweddol yn y diwydiant. Siaradodd William McGregor a Hilary Bevan Jones â dechreuwyr gyrfa ym Mhrifysgol Bangor ynglŷn â chreu gyrfa fel awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd.