Ar ddydd Mercher 5 Medi 2018, gwahoddwyd ein haelodau i gynhyrchiad cyntaf Bad Wolf Productions a chyfres deledu newydd sbon SKY One - A Discovery of Witches. Dilynwyd y dangosiad gan sesiwn holi gyda'r cast Teresa Palmer a Matthew Goode ynghyd â Deborah Harkness (awdur y llyfr a'r cynhyrchydd gweithredol), Jayne Tranter (cynhyrchydd gweithredol) a Kate Brooke (awdur sgript).