You are here

CYFARWYDDWR STAR WARS, GARETH EDWARDS, YN YMUNO Â BAFTA CYMRU A GRŴP STIWDIOS PINEWOOD AR GYFER DIGWYDDIAD DYDD GŴYL DEWI

22 February 2017

Cynhelir sesiwn holi ac ateb yn BAFTA 195 Piccadilly ar 1 Mawrth i ddathlu talent ym maes y cyfryngau creadigol yng Nghymru

 

Mae’r Academi Celfyddydau Ffilm a Theledu Brydeinig yng Nghymru, sef BAFTA Cymru, wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal digwyddiad arbennig ar 1 Mawrth, Ddydd Gŵyl Dewi, ym mhencadlys y sefydliad, BAFTA 195 Piccadilly, yn Llundain.

Bydd y digwyddiad, sy’n agored i’r cyhoedd ac aelodau o BAFTA, yn cynnig noson fewnweledol ac adloniannol lle bydd y cyfarwyddwr Gareth Edwards, y mae ei deulu o Bont-y-pŵl yn Ne Cymru, yn trafod ei ffilmiau gyda’r actor, awdur a chynhyrchydd Celyn Jones.

Ar ôl ennill gwobr BAFTA am effeithiau gweledol yn 2006 am y ddrama ddogfen Hiroshima, cafodd Edwards gryn gydnabyddiaeth am Monsters (2010), sef y ffilm annibynnol y gweithiodd ef arni fel awdur, cyfarwyddwr, ffilmiwr ac artist effeithiau gweledol.

Yn 2011, cafodd ei enwi’n Brit to Watch gan BAFTA a’i enwebu yng nghategori Outstanding Debut, Gwobrau’r Academi Ffilm Brydeinig.

Aeth Edwards ymlaen i gyfarwyddo fersiwn newydd o Godzilla yn 2014 a’r opera ofod epig Rogue One: A Star Wars Story (2016), y gyntaf yng nghyfres Antholeg Star Wars.

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru: “Pwrpas BAFTA yw dathlu rhagoriaeth ac ysgogi ac addysgu’r cyhoedd ac mae BAFTA Cymru’n canolbwyntio ar y dalent ardderchog sydd yn dod o Gymru. Wrth i ni baratoi i lansio’r alwad am geisiadau ar gyfer 26ain seremoni Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru ym mis Mawrth, mae’n gyffrous gallu canolbwyntio ar yrfa gwneuthurwr ffilm o Gymru sydd wedi cael cymaint o lwyddiant rhyngwladol ac sydd yn gallu cynnig ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Stiwdios Pinewood er mwyn cynnig y digwyddiad arbennig hwn.”

Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen o ddigwyddiadau helaeth a gyflwynir gan BAFTA yng Nghymru, sy’n cynnig 80 o ddigwyddiadau amrywiol y flwyddyn ledled y wlad. Bydd hefyd yn gyfle i godi arian i gefnogi datblygiad parhaus gwaith yr elusen gyda phobl o bob math o gefndiroedd, sy’n dechrau ar eu gyrfa.

Dywedodd Andrew M. Smith, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol ar gyfer Grŵp Stiwdios Pinewood: "Mae gan Stiwdios Pinewood gysylltiad agos â Chymru a Gareth Edwards ac rydym yn falch o gefnogi BAFTA Cymru gyda’r digwyddiad arbennig hwn ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.  Ffilmiodd Gareth Rogue One:  A Star Wars Story, yn Stiwdios Pinewood a chefnogodd tîm Digidol Pinewood  ei gynhyrchiad.  Mae Pinewood Pictures yn cynrychioli cronfa cyfryngau Llywodraeth Cymru ac mae’r grŵp hefyd yn gweithredu Stiwdios Pinewood Cymru sydd ar gyrion Caerdydd.  Gobeithiwn y bydd ein holl ymdrechion yn helpu i gefnogi a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent ym maes y cyfryngau creadigol yng Nghymru.”