You are here

Cadarnhau y bydd Gwobrau BAFTA yng Nghymru a'r Alban yn cael eu cynnal yn 2020

29 June 2020
BAFTA Cymru Awards, Backstage, Cardiff, Wales, UK - 02 Oct 2016Mei Lewis/BAFTA

Bydd Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru yn cael eu cynnal ym mis Hydref 2020 a bydd yr enwebiadau’n cael eu cyhoeddi ar 3 Medi 2020

Bydd Gwobrau’r Academi Brydeinig yn yr Alban 2020 yn cael eu cynnal a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni

Mae’r Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) wedi cadarnhau heddiw y bydd Gwobrau’r Academi Brydeinig yng Nghymru a Gwobrau’r Academi Brydeinig yn yr Alban yn cael eu cynnal yn 2020. Bydd y ddwy seremoni’n cael eu cynnal, gyda rhagor o fanylion am y fformat yn cael eu cyhoeddi’n ddiweddarach eleni, gan ystyried cyfyngiadau’r llywodraeth o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.

Bydd Gwobrau BAFTA Cymru yn cael eu cynnal ym mis Hydref 2020, a bydd enwebiadau a manylion ychwanegol ynglŷn â fformat y seremoni yn cael eu cyhoeddi ar 3 Medi 2020.

Bydd Gwobrau BAFTA yr Alban yn cael eu cynnal yn 2020, a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni. 

Dywedodd Angharad Mair, Cadeirydd BAFTA Cymru a Chyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis: “Rydym yn falch iawn o allu cadarnhau y bydd Gwobrau BAFTA Cymru yn cael eu cynnal yn 2020. Mae pobl greadigol ddawnus o Gymru wedi bod yn allweddol wrth hysbysu a difyrru’r genedl drwy gydol y misoedd diwethaf anodd hyn. Mae’r diwydiant wedi parhau i ymwneud yn frwd â’r broses ymgeisio am wobr, felly teimlwn mai’r peth iawn fyddai i ni barhau â’n gwaith yn 2020 i gydnabod y rhagoriaeth ym maes crefft, perfformio a chynhyrchu a ddangosir gan bobl ddawnus a chynyrchiadau o Gymru. Rydym yn falch o fod wedi dathlu diwydiannau sgrîn Cymru ers bron 30 mlynedd ac edrychaf ymlaen at seremoni wych arall, er ychydig yn wahanol, yn 2020.”

Ym mis Mawrth 2020, cynhaliodd BAFTA ei seremoni Gwobrau ddigidol gyntaf, sef Gwobrau Gemau’r Academi Brydeinig, a ddenodd gynulleidfa o fwy na 900,000. Ers hynny, mae BAFTA wedi parhau i addasu ei seremonïau Gwobrau yn sgil cyfyngiadau’r Llywodraeth o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Yn ddiweddar, cyhoeddodd BAFTA y bydd Gwobrau Crefft Teledu’r Academi Brydeinig a Gwobrau Teledu yr Academi Brydeinig Virgin Media yn cael eu cynnal fel sioeau stiwdio gaeëdig ar 17 a 31 Gorffennaf, yn ôl eu trefn.

Cyhoeddir yr enwebiadau ar gyfer Gwobrau BAFTA Cymru ar 3 Medi yn www.bafta.org/cymru