You are here

Bill Nighy ym ymuno â gwesteion ar y 'carped coch' yn ymddangosiad cyntaf 'Their Finest'

10 April 2017
Nicola Dove

Ar 18 Ebrill, bydd y carped coch yn ymddangos yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd ar gyfer ymddangosiad cyntaf y ffilm Their Finest – comedi ramant adeg y rhyfel a ffilmiwyd yn helaeth yng Nghymru – a gynhelir gan Lywodraeth Cymru a BAFTA Cymru.

Bydd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, yn croesawu gwesteion i'r digwyddiad, gan gynnwys yr actor Bill Nighy. Bydd yr actor yn ymuno â chynhyrchydd y ffilm, Amanda Posey, y sgriptiwr Gaby Chiappe a Lissa Evans, awdur y llyfr gwreiddiol 'Their Finest Hour and a Half' i gael sgwrs ag Owen Sheers ar ôl y ffilm.

Ariannwyd y ffilm gan Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau Llywodraeth Cymru ynghyd â BBC Films a Pinewood Group, gyda Pinewood Pictures yn noddi'r ymddangosiad cyntaf. Chwaraeodd Sgrîn Cymru, sy'n rhan o dîm diwydiannau creadigol y Llywodraeth, ran allweddol yn y broses o ddod o hyd i'r lleoliadau perffaith ac ymwelwyd â sawl man cyn dechrau ar y gwaith ffilmio

Ymhlith y lleoliadau yn ne-orllewin Cymru y mae Neuadd y Ddinas Abertawe – sy'n ymddangos fel y Weinyddiaeth Wybodaeth a Whitehall yn y ffilm – ynghyd â sawl lleoliad yn Sir Benfro gan gynnwys Dyffryn Trecŵn, Freshwater West, Harbwr Porth-gain, Sinema'r Palas yn Hwlffordd a'r Cresselly Arms yng Nghei Cresswell.  

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: "Mae Their Finest yng enghraifft wych o'r manteision eang i Gymru sy'n deillio o'r diwydiant cynhyrchu ffilmiau a rhaglenni teledu. Mae’n darparu gwaith a phrofiad i weithwyr yn y maes, yn cynnal amrywiaeth o fusnesau cymorth arbenigol, yn hybu'r sector lletygarwch ac yn rhoi sylw i'r arbenigedd sydd gennym yma yng Nghymru.

"Mae'r diwydiant hwn yn un o'r sectorau sydd â blaenoriaeth, ac rwy'n hynod falch o weld bod y defnydd eang o leoliadau ledled Cymru yn chwarae rôl allweddol yn nhwf economïau rhanbarthol a swyddi, ac yn hybu ein diwydiant twristiaeth ar yr un pryd."

Bydd Their Finest ym ymddangos mewn sinemâu ar draws y DU ar 21 Ebrill. Rhoddodd y ffilm hon gyfle i’r cyfarwyddwr, Lone Scherfig, ymuno unwaith eto â’r cynhyrchydd, Amanda Posey (An Education), ac i gydweithio am y tro cyntaf â'r cynhyrchydd o fri, Stephen Woolley.

Mae'r ffilm yn olrhain hanes criw ffilmio o Brydain sy'n ei chael yn anodd creu ffilm wladgarol i godi ysbryd yng nghyfnod y Blitz yn Llundain yn yr Ail Ryfel Byd. Yn ogystal â'r prif actor, Gemma Aterton, mae aelodau'r cast yn cynnwys Sam Claflin fel ei chyd sgriptiwr a Bill Nighy, sy'n chwarae rôl gefnogol, fel actor matinée aflwyddiannus sy'n ymuno o'i anfodd â'u cynhyrchiad. Mae Richard E Grant, Rachael Stirling, Jeremy Irons a Helen McCrory yn rhan o'r cast.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: "Rydym yn hynod falch o gynnal y digwyddiad hwn i ddathlu ffilm a gynhyrchwyd gan dîm o Gymru, sy'n cynnwys cymaint o leoliadau ysblennydd Cymru ac actorion o fri. Bydd y digwyddiad yn uchafbwynt arbennig yn ein rhaglen ddigwyddiadau ac rydym wrth ein bodd cynnig cyfle i'n haelodau fod ymhlith y bobl gyntaf i weld y ffilm."

Yn ystod y noson, bydd derbyniad i'r gwesteion gael rhwydweithio a fydd yn cynnwys aelodau o Banel Cynghori'r Diwydiant Creadigol, darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu o Gymru a Llundain, cwmnïau cyfleuster, aelodau BAFTA a myfyrwyr gradd meistr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.