Mae Talespinners yn arbenigo mewn darparu stori ar gyfer gemau fideo o bob math, ac ar gyfer y cyfryngau rhyngweithiol ehangach.
Mae eu gwaith yn cynnwys consol, PC, a gemau symudol; VR, digwyddiadau, gemau stryd, ffilm, a ffuglen rhyddiaith byw. Mae ganddynt ddiddordeb arbennig mewn seicoleg arswyd gan eu bod nhw wedi creu gemau, llyfrau, ffilmiau a phrofiadau byw yn y genre hon.
Mae RPG: Relating Philosophy and Gaming yn brosiect ymgysylltu o Brifysgol Caerdydd sydd yn rhedeg digwyddiadau archwilio gemau fideo ac athroniaeth.