Rydym wrth ein bodd i groesawu Sol Rogers a Mark Burvill fel siaradwyr. Sol yw cadeirydd Immerse UK – rhwydwaith traws-sector i fusnesau a sefydliadau ymchwil ym mhob rhan o economi'r DU sydd â diddordeb yn y modd y gall realiti estynedig a rhith-wirionedd sbarduno cynhyrchiant a thwf cymdeithasol ac economaidd – a sylfaenydd REWIND; y stiwdio a greodd Magic Butterfly gydag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Mark yn Gyfarwyddwr Technegol yn Aardman Interactive ac yn aelod gweithredol o Grŵp Cynghori Rhith-wirionedd BAFTA.
Bydd cyfle hefyd i glywed cyfres o gyflwyniadau byr gan unigolion, asiantaethau a sefydliadau a leolir yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn prosiectau rhith-wirionedd diddorol yn eu gwaith presennol.
Bydd gennym farchnad ar gyfer arddangosiadau gan grwpiau bach – os hoffech ddod â thechnoleg i'w rhannu, ebost Vicki.
Cadwch le yma.