You are here

Sgwrs gyda...Wildflame

Wednesday, 14 June 2017 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Rydym yn falch iawn eich gwahodd i noson yng nghwmni Paul Islwyn Thomas (Prif Swyddog Gweithredol) a Connie Fisher (Gweithredol Datblygu, Fformatau a Nodwedd) o gwmni Wildflame yng Caerdydd - is-adran o rwydwaith dosbarthu rhyngwladol Flame.

Fel rhan o'n cyfres o ddigwyddiadau yn canolbwyntio ar gwmnïau cynhyrchu Cymreig newydd ac yn dilyn noson gyda Bad Wolf yn 2016, rydym yn mynd i gael cynnal y noson arbennig lle bydd Paul a Connie yn ateb cwestiynau gan y gynulleidfa, siarad am eu llwybrau gyrfa eu hunain a rhannu eu barn am yr hyn y mae'n ei olygu iddynt hwy i fod yn rhan o'r tîm Wildflame.

Gyda chanolfannau yng Nghaerdydd a Llundain, mae Wildflame yn rhan o'r rhwydwaith dosbarthu rhyngwladol Flame sy'n canolbwyntio ar anghenion darlledwyr, partneriaethau cyd-gynhyrchu, opsiynau ariannu newydd a modelau cynhyrchu arloesol.

Paul Islwyn Thomas yw un o swyddogion gweithredol mwyaf profiadol ac uchel ei barch sy'n gweithio yn y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru. Ymunodd Paul a Flame i arwain ei is-adran newydd yn y DU, Wildflame, ac mae'n gyfrifol am y strategaeth creadigol a busnes cyffredinol y cwmni.

Symudodd Connie Fisher i fyd teledu ar ôl gyrfa fel perfformwraig blaenllaw West End. Gwnaeth ei enw fel actores gerddorol yn y London Palladium yn chwarae Maria Von Trapp yn The Sound of Music. Mae Connie yn falch iawn o fod yn rhan o dîm Wildflame yn datblygu fformatau, rhaglenni ffeithiol ac adloniant.


E-bostiwch eich cwestiynau i Paul a Connie i Vicki cyn y digwyddiad neu eu trydar @BAFTACymru.


Gall tocynnau cyhoeddus yn cael eu prynu yn Chapter.