You are here

Simon Winstone mewn sgwrs gyda Sam Hoyle

Wednesday, 11 October 2017 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Cyfle i glywed Simon Winstone yn trafod ei rôl fel Pennaeth Drama yng Nghymru ar gyfer BBC Studios. Mae Simon yn gyfrifol am oruchwylio tîm gyfres ddrama a chyfresi a chynyrchiadau wedi eu lleoli yng Nghaerdydd, gan adeiladu ar eu llwyddiant creadigol a chwilio am gyfleoedd newydd. Gall BBC Studios nawr wneud rhaglenni ar gyfer darlledwyr eraill a sianeli yn y DU ac yn rhyngwladol, yn ogystal â'r BBC.

Yng Ngwanwyn 2017, penododd BBC Studios (prif gangen cynhyrchu teledu y BBC) Simon Winstone fel Pennaeth Drama - Cymru, i arwain ar eu cyfresi drama a busnes chyfresi, wedi'i leoli yn Mhorth y Rhath yng Nghaerdydd.

Mae gan Simon brofiad rhagorol a mae wedi cyfrannu at lwyddiant dau o raglenni mwyaf y BBC dros y blynyddoedd - EastEnders a Doctor Who.

Bu'n gweithio gyda Red Planet Pictures; yn gyntaf fel Pennaeth Drama (Cymru), yna Pennaeth Datblygu, ac, yn fwyaf diweddar, fel Cynhyrchydd Gweithredol. Mae credydau trawiadol Simon yn cynnwys Death in Paradise, Crash, The Nativity, By Any Means, The Passing Bells, Dickens a Hooten a'r Lady.

Mae tocynnau cyhoeddus ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael i'w prynu drwy Chapter