Bydd sesiwn nesaf Realiti Rhithwir De Cymru (VRSW) yn cwrdd yn Orchard Media and Events Group Ltd, ddydd Iau 28. Defnyddio realiti rhithwir yn y broses cynhyrchu ffilm a theledu fydd y pwnc trafod.
Bydd y sesiwn yn dod â’r clwstwr ynghyd er mwyn clywed gan Dan May o Painting Practice a Marc Real o Lolfa Arloesedd y BBC.
Bydd sesiwn holi ac ateb a chyfle i glywed am astudiaethau achos byr gan y rhai sydd wedi defnyddio realiti rhithwir yn llwyddiannus ym maes cynhyrchu. Cewch hefyd y cyfle i rannu newyddion, trafod prosiectau a rhwydweithio yn ogystal â rhoi cynnig ar ambell i brofiad yn ein marchnad.
Cyflwynwyd gan Caerdydd Creadigol a Orchard.