You are here

Rhagddangosiad: B&B + Q&A

Wednesday, 10 May 2017 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Rhagolwg o'r ffilm nodwedd B&B i'w ddilyn gan sesiwn cwestiwn ac ateb wedi ei gynnal gan Boyd Clack gyda'r awdur/cyfarwyddwr sydd wedi derbyn enwebiad BAFTA Joe Ahearne (The Replacement, Da Vinci's Demons, This Life, Doctor Who) a'r Cynhyrchydd Jayne Chard (Hollyoaks, Grange Hill).

Mae Mike a Fred, sydd o Lundain, yn dychwelyd at westy anghysbell. Y flwyddyn gynt roeddynt wedi erlyn y perchennog Cristnogol am beidio â chaniatáu iddynt rannu gwely.

Mae digwyddiadau'n troi'n sur pan mae dyn o Rwsia yn cyrraedd - a ganddo rhywbeth sinistr mewn golwg. Mae eu penwythnos o hwyl yn troi i mewn brwydr waedlyd i oroesi yn y ffilm gyffro smart, greulon ddoniol a thywyll hon.

Gyda Paul McGann (Withnail and I, The Musketeer, Luther), Tom Bateman (Cold Feet, Jekyll & Hyde, Da Vinci's Demons), Sean Teale (Mr Selfridge, Skins), Callum Woodhouse (Cold Feet, The Durrells) a James Tratas (Optimistry). Cafodd B&B ei ariannu gan Ffilm Cymru, Creative England a buddsoddiad preifat.

Ewch i wefan B&B am fwy o wybodaeth yma 


Dilynir y dangosiad gan sesiwn C&A gyda Joe Ahearne a Jayne Chard.


Gwylio'r rhagflas: