You are here

Rhag-ddangosiad Show Dogs (Bangor)

Show Dogs
Mehefin 30 i Gorffenaf 1 2018
Pontio, Bangor University, Deiniol Rd, Bangor LL57 2TQ
Y ffilm nodwedd animeiddiedig - Show Dogs. Mae’r ci macho, Max, sef unig gi’r heddlu yn mynd ar antur gudd fel ci arddangos mewn sioe gwn fawreddog, a’i sialens yw atal unrhyw droseddau rhag digwydd!

Ffilmiwyd Show Dogs yn Stiwdio Pinewood Cymru.

Ffilm comedi "live action"/CGI-animeiddiedig wedi'i gyfarwyddo gan Raja Gosnell o sgript wreiddiol gan Max Botkin a Marc Hyman ac yn serennu Will Arnett, Chris "Ludacris" Bridges, Natasha Lyonne, Jordin Sparks, Gabriel Iglesias, Shaquille O'Neal, Omar Chaparro, a Stanley Tucci.

Mae modd i aelodau BAFTA Cymru dderbyn 1 tocyn oedolyn am ddim + 1 tocyn plentyn am ddim i unrhyw ddangosiad o Show Dogs yn Pontio dros benwythnos 30 Mehefin a Sul 1 Gorffennaf.

Cysylltwch gyda Pontio a dyfynnu eich rhif aelodaeth BAFTA Cymru pan yn bwcio tocynnau.

Mae tocynnau i 'r cyhoedd hefyd ar gael o swyddfa docynnau Pontio.