You are here

Rhag-ddangosiad: Requiem + sesiwn holi ac ateb

Monday, 29 January 2018 - 7:15pm
Cineworld Caerdydd, Stryd Mary Ann, CF10 2EN
Rydym yn cynnig y rhagolwg yma o Requiem - cyfres seicolegol newydd o New Pictures ar gyfer BBC One a Netflix. Yn dilyn y dangosiad, bydd sesiwn holi ac ateb gyda'r actores arweiniol Lydia Wilson (Ripper Street, About Time), yr awdur Kris Mrska (The Slap, Underbelly) a BAFTA Breakthrough Brit y cyfarwyddwr Mahalia Belo (Volume, ELLEN, a enillodd y Wobr Ffilm yn Gwobrau Cymru 2017).

Ym 1994, mae plentyn bach yn diflannu o dref fach Gymreig, erioed i'w weld eto. Mae nawr tair blynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae chwaraewr ifanc talentog Matilda (Lydia Wilson o Star Trek Beyond, About Time), wedi gorfod ceisio ymdopi gyda hunanladdiad ei mam.

Yn sgil y drychineb, mae Matilda yn dechrau cwestiynu popeth y mae hi'n meddwl ei bod hi'n gwybod amdani hi hun, gan ddechrau ar drywydd sy'n arwain hi i'r pentref Cymreig honno -  lle mae'r cyfrinachau a ddatguddir yn fygythiad.

Mae Lydia Wilson yn arwain cast o actorion enwog, gan gynnwys Joel Fry (W1A, Common Lies), Tara Fitzgerald (Game of Thrones), cyn-enillydd BAFTA Cymru, Richard Harrington (Hinterland), Brendan Coyle (Downton  Abbey) a'r actor enwebedig BAFTA Cymru, Dyfan Dwyfor (Y Llyfrgell).

Cynhelir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â BBC Cymru, New Pictures a Sgrin Cymru: