You are here

Rhag-ddangosiad: Pili Pala + Sesiwn Holi ac Ateb

Monday, 2 September 2019 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Cyfle i weld y ddrama newydd hon gan S4C, gyda Sian Reese-Williams (Craith / Hidden) yn serennu

Mae Sara Morris (Sian Reese-Williams - Craith/Hidden) yn rhagorol yn ei swydd. Yn arbenigydd mewn Adran Meddygaeth Ffetol, mae hi'n dwlu cael dod â bywydau newydd mewn i’r byd ac yn benderfynol o rhoi’r profiad gorau posib i bob menyw wrth eni eu plentyn, er gwaetha’r diffyg cyllid a diffyg staff yn yr adran. Pan mae ei ffrind Elin (Fflur Medi Owen) yn gofyn i Sara ofalu amdani mae hi’n derbyn yn syth, yn erbyn cyngor ei chyd-weithwyr. Mae hi mor hapus dros ei ffrind sy’n feichiog ar ôl blynyddoedd o fethiant a phoen. Ond pan fo cymhlethdodau’n codi mae Sara’n cael ei rhoi mewn sefyllfa amhosib.

Mae Pili Pala yn canolbwyntio ar benderfyniad dynol ond sy’n ‘bractis meddygol gwael’ â chanlyniadau enbyd. Mae’n benderfyniad sy’n bygwth popeth, gan rhoi gyrfa Sara yn y fantol a’i bywyd personol dan straen aruthrol. Drama am gyfeillgarwch a theulu gyda themau sy’n berthnasol i ni gyd: teyrngarwch; brad; yr anobaith sy’n dod gyda methu beichiogi; a deilemas emosiynol a moesol erthylu. 

Wedi ei osod ar arfordir Gogledd Orllewin Cymru mae Pili Pala yn arddangos ei harddwch yn ogystal ac atgofion pŵl yr oes a fu: cefnlen syfrdanol i ddrama torcalonus.


Yn dilyn y dangosiad bydd sesiwn holi ac ateb gan y tim creadigol Nora Ostler Spiteri (Cynhyrchydd), Tic Ashfield (Cyfansoddwr), Phil Rowlands (Awdur), Claire Winyard (Cyfarwyddwr), Rhys Ap Trefor (Actor) a Dr Bryan Beattie (Ymgynghorydd Obstetryddol) mewn sgwrs â Roger Williams (Bang). 


I archebu tocyn aelod ebostiwch Emma Howell

Bydd tocynnau i'r cyhoedd ar gael cyn hir o Chapter.


Mewn partneriaeth gyda