You are here

Rhag-ddangosiad: Mr Jones + Sesiwn Holi

Mr Jones
Friday, 31 January 2020 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Sold out
Ymunwch â ni i gael dangosiad rhagolwg o Mr Jones ac yna sesiwn holi-ac-ateb gyda phobl greadigol allweddol

Mae Gareth Jones, cyn gynghorydd i’r Prif Weinidog Lloyd George, yn mynd i’r Dwyrain i ddarganfod a yw’r holl siarad y mae wedi bod yn ei glywed am lwyddiant y Wladwriaeth Sofietaidd yn wir. Unwaith yno mae'n darganfod erchyllterau'r gyfundrefn Stalinaidd o lygad y ffynnon, ond mewn byd sydd wedi'i adeiladu ar gelwydd, a fydd unrhyw un yn ei gredu? Yn seiliedig ar stori wir y newyddiadurwr a drodd yn was sifil a ysbrydolodd George Orwell i ysgrifennu Animal Farm a 1984, mae hon yn ffilm amserol am bwysigrwydd siarad gwirionedd â phŵer, gan y cyfarwyddwr Pwylaidd a enwebwyd am Oscar, Agnieszka Holland.

Mae Mr Jones yn serennu James Norton, Vanessa Kirby, Peter Sarsgaard a Celyn Jones.

Dilynir y dangosiad gan Holi ac Ateb gyda Agnieszka Holland.


E-bostiwch Ella i archebu tocyn aelodau.

Mae tocynnau cyhoeddus ar gael i'w prynu trwy Chapter.