You are here

Rhag ddangosiad: 'Light Years' (a dangosiad ffilm fer 'September') + C&A

Light Years
Monday, 28 November 2016 - 7:00pm
Cineworld, Caerdydd
Mae LIGHT YEARS yn ffilm nodwedd gyntaf enillydd gwobr BAFTA Esther May Campbell, ac maen cynnwys perfformiad actio cyntaf y gyfansoddwraig enwog Beth Orton, ochr yn ochr â Muhammet Uzuner (ONCE UPON A TIME IN ANATOLIA) a chast o newydd-ddyfodiaid ifanc. (12A)

Tocynnau cyhoeddus ar gael yma

Mae LIGHT YEARS yn stori farddonol a brawychus, yn son am golled, a'r teimlad o obaith ddofn sydd gan bob un ohonom.

Ar ddiwrnod braf o haf, mae Rose (y newydd-ddyfodiad Zamira Fuller) yn ysu i weld ei mam (Beth Orton) ond does neb yn fodlon mynd â hi.

Mae ei thad (Muhammet Uzuner), yn ei chael yn anodd ymdopi, ac yn diflannu i weithio, tra mae ei chwaer (Sophie Burton) yn aros i gwrdd â bachgen ar y cwrs golff  gyda'i brawd (James Stuckey) sy'n ymgolli adref drwy siarad gyda'r meirw ar lein.

Drwy gymryd rheolaeth o'i thynged ei hun, mae mynd i bendraw tiroedd Lloegr er mwyn ei chyrraedd. Mae taith ryfedddol Rose yn ysgogi ei brodyr, chwiorydd a'i rhieni ddatgysylltiedig mewn i aduniad ingol, lle y byddant yn gwynebu her gyda'i gilydd.

Bydd y dangosiad yn cael rhagflaenu gyda dangosiad ffilm fer 'September'.

Mewn byd o 'flyovers', ymylon a ffyrdd i nunlle, mae hymian y draffordd yn atgof cyson o gyflymder o fywydau cyflym pobl eraill, ac nid yw Marvin yn mynd i unrhyw le. Yng nghornel anghofiedig cefn gwlad Seisnig a gwasanaethau'r draffordd mae person ifanc rhyfeddol yn cyrraedd, gan newid ei fywyd am byth.

Cyfarwyddwyd gan Esther Mai Campbell a enillodd wobr BAFTA am y Ffilm Fer yn 2009.


Dilynir gyda sesiwn holi yng nghwmni Esther May Campbell (Awdur/Cyfarwyddwr) a'r actor Cymreig, James Stuckey.

Cefnogir y digwyddiad gan