Yn dilyn diweddglo ffrwydrol ail gyfres Y Gwyll, mae’r drydedd gyfres yn parhau i frawychu a difyrru’r gynulleidfa.
Ers i’r gyfres ddychwelyd i S4C fis Hydref, rydym wedi dilyn y tîm o dditectifs wrth iddyn nhw gael eu rhwygo ar wahân a dod yn unedig unwaith eto. ‘Rydym hefyd wedi dilyn tynged drasig Iwan Thomas, y cyn-dditectif Arolygydd oedd â’i fryd ar ddialedd, ac ymdrechion Prosser i guddio’i ran ym marwolaeth Iwan.
Fodd bynnag, mae hunanladdiad yn dod â sylw Mathias a’i gyd-aelodau yn ôl at hen achos: y cartref plant. Pa mor hir all Prosser ddianc oddi wrth ei orffennol?
I'w ddilyn gan sesiwn cwestiwn ag ateb gyda Ed Thomas ag Ed Talfan