You are here

Rhag-ddangosiad - Being Frank: The Chris Sievey Story + sesiwn holi gyda Steve Sullivan (Caernarfon)

Being Frank image
Tuesday, 26 February 2019 - 7:15pm
Galeri, Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd, Caernarfon LL55 1SQ
Ffilm ddogfen swyddogol am y comediwr arloesol o Fanceinion, Frank Sidebottom, a bywyd a chelfyddyd ei greadur cudd, Chris Sievey. Roedd Frank Sidebottom, y dyn â phen papier-mâché, yn brif ddidanwr ar y sîn comedi a cherddoriaeth ym Manceinion am dros 25 mlynedd, ond dim ond rhai oedd yn adnabod y dyn y tu mewn i'r masg.

Mae'r cyfarwyddwr Steve Sullivan yn gwau darnau o bersonoliaeth Sievey ynghyd trwy ddefnydd o archif helaeth o lyfrau nodiadau personol, ffilmiau, celf a cherddoriaeth, ynghyd â chyfweliadau gan ffrinidau sy’n cynnwys Johnny Vegas, Jon Ronson, John Cooper Clarke, Ross Noble, a mwy.

Mae'r hyn y mae'n ei ddatgelu yn bortread agos o arlunydd sensitif. Cafodd y ffilm ei gynhyrchu, ei gyfarwyddo a'i olygu gan y cynhyrchydd a chyfarwyddwr Steve Sullivan. Fe wnaeth Steve gydweithio â Frank Sidebottom a Chris Sievey ar raglen ddogfen 2006 Magical Timperley Tour, taith bws agored o amgylch mannau hardd a mwynderau dinesig Timperley.

Mae ffilmiau blaenorol Steve wedi ennill gwobrau yn rhyngwladol. Mae'n fwyaf adnabyddus am A Heap Of Trouble, ei ffilm fer cerddorol am ddynion noeth, a enillodd wobr fawr y rheithgor yn y Gŵyl Comedi Montreal a Gwobr BAFTA Cymru ar gyfer y Ffilm Fer Orau, a chafodd ei weld mewn dros 100 o wyliau ffilm ledled y byd.  

Mae'r ffilm yn y sinemau Prydeinig yn ystod Gwanwyn 2019. Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi gyda Steve.

Mae nifer o docynnau ar gyfer aelodau ar gael gan Vicki.

Gall aelodaeu o'r cyhoedd brynu tocynnau o Galeri.