You are here

Rhag-ddangosiad: Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

Tuesday, 20 December 2016 - 5:30pm
Atrium, Prifysgol De Cymru
Cyfle i weld rhagolwg o ffilm Nadolig newydd S4C i blant, gyda'r cast a'r criw yn bresennol. A mins pei neu ddwy!

Mae cwmni teledu Boom Cymru sydd yn cynhyrchu ffilm Nadolig S4C eleni. 

Mae’r ffilm yn olrain bywyd bachgen bach 7 mlwydd oed o’r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond mae nhw’n brysur iawn. Mae Noa yn unig blentyn, ond dydio ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o’r enw Albi. Mae Albi yn un o nifer o ‘ffrindiau dychmygol’ sydd yn bodoli, ac maent yn byw mewn byd arbennig iawn –  Ff.R.I.N.D.  

Mae’r ffilm yn adrodd hanes y teulu un gaeaf hudol, ac mae bywyd Noa yn cael ei newid yn gyfangwbl. Mae’r ffilm yn cael ei ddarlledu ar S4C dydd Nadolig eleni am 7.30yh.


Cyflwynir y ffilm gan Caryl Parry Jones a Elen Rhys, S4C


Cefnogir gan