You are here

Premiere Cymru: THEIR FINEST + C&A gyda Bill Nighy

Tuesday, 18 April 2017 - 6:30pm
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Bydd BAFTA Cymru, Sgrin Cymru a Pinewood Pictures yn partneru i gynnal y Premiere Gymreig y ffilm nodwedd Their Finest. Bydd y digwyddiad yn cael ei fynychu gan yr actor Bill Nighy a fydd yn cael i ymuno gan gynhyrchydd y ffilm Amanda Posey, sgriptiwr Gaby Chiappe ac awdur y llyfr gwreiddiol, 'Their Finest Hour and a Half', Lissa Evans yn sgwrsio gyda Owen Sheers yn dilyn y sgrinio.

Bydd y digwyddiad carped coch ar gyfer aelodau BAFTA a gwahoddedigion hefyd yn cael eu mynychu gan Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates AC a myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mae Their Finest yn agor ar draws y DU ar 21 Ebrill ac yn gweld cyfarwyddwr Lone Scherfig yn aduno a chynhyrchydd An Education Amanda Posey ac yn cydweithio am y tro cyntaf gyda'r cynhyrchydd arobryn Stephen Woolley.

Ochr yn ochr gyda Gemma Arterton, mae aelodau'r cast yn cynnwys Sam Claflin, fel ei chyd-sgriptiwr Buckley a Bill Nighy fel eilun matinee sy'n ymuno yn y cynhyrchiad mewn rôl gefnogol. Mae Richard E Grant, Rachael Stirling, Jeremy Irons a Helen McCrory hefyd yn ymuno yn y cast.

1940, Llundain, y Blitz; gyda morâl y wlad yn y fantol, mae Catrin (Gemma Arterton), yn sgriptiwr heb ei brofi, a chast a chriw dros dro, yn gweithio o dan tân i wneud ffilm i godi calon y genedl; ac ysbrydoli America i ymuno â'r rhyfel. Mae Their Finest yn bortread ffraeth a rhamantus o ferch ifanc yn ddod o hyd i'w ffordd, a'i llais, yn anhrefn rhyfel. 


Cafodd y cynhyrchiad ei saethu ar leoliad yng Nghymru gyda chefnogaeth Sgrin Cymru a derbyniwyd arian gan y Grŵp Pinewood a'r Gyllideb Buddsoddi Cyfryngau Llywodraeth Cymru.

Gwylio'r trailer:

 

Bydd Their Finest yn cael eu rhyddhau gan Lionsgate yn y DU o 21 Ebrill. 


Mewn partneriaeth gyda:                 Taittinger logo