You are here

Paul Higginson ar Ddosbarthu (Twentieth Century Fox)

Twentieth Century Fox
Monday, 25 June 2018 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Bydd Paul Higginson (Is-Lywydd Gweithredol EMEA ar gyfer Twentieth Century Fox) yn cyflwyno sgwrs ar weithrediadau marchnata a dosbarthu sinema yn ogystal â chaffaeliadau ffilm lleol ar gyfer Fox yn EMEA.

Graddiodd Paul o Brifysgol Lerpwl a mae yn Fargyfreithiwr profiadol.

Yn ystod ei yrfa, mae Paul wedi gweithio mewn cynhyrchu ffilm a phob maes o ddosbarthu ffilmiau.

Fe'i magwyd yn y Rhyl ac mae dal i fod yn gysylltiedig â'i dref gartref fel Cadeirydd Comisiwn Peldroed y Rhyl a'i Gynllun Cymunedol. Mae hefyd yn Gymrawd o Brifysgol Glyndwr, Wrecsam.

Mynnwch docyn aelod gan Vicki

Mae tocynnau ar gyfer y cyhoedd ar gael o swyddfa docynnau Chapter