You are here

Noson yng Nghwmni Gareth Edwards

Wednesday, 1 March 2017 - 7:30pm
BAFTA, 195 Piccadilly, Llundain W1J 9 LN
Bydd yr enillydd BAFTA a Brit to Watch yn 2011, y Cyfarwyddwr Gareth Edwards (Monsters, Godzilla, Rogue One) yn ymuno gyda Celyn Jones am sgwrs am ei yrfa.

Mae Gareth Edwards yn gyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, sinematograffydd, dylunydd cynhyrchu, ac artist effeithiau gweledol. Fe ennillodd cydnabyddiaeth eang i Monsters (2010), ffilm annibynnol lle bu'n awdur, cyfarwyddwr, sinematograffydd, ac artist effeithiau gweledol.

Yn ddiweddarach cyfarwyddodd Godzilla (2014), a'r ffilm epig Rogue One: A Star Wars Story (2016), y cyntaf yn y gyfres Star Wars Anthology.

Roedd Gareth yn BAFTA Brit to Watch yn 2011 ac roedd yn rhan o'r tîm effeithiau gweledol y tu ôl i'r enillydd drama-ddogfen BAFTA 2006 - Hiroshima, ar ôl cael ei henwebu yn 2011 ar gyfer Horizon. Cafodd ei enwebu hefyd ar gyfer y BAFTA Debut Eithriadol ar gyfer Ysgrifennwr, Cyfarwyddwr neu Cynhyrchydd Prydeinig yn 2011.

Cafodd Edwards ei eni yn Swydd Warwick i rieni Cymreig ac ymwelodd â deulu estynedig yng Nghymru yn rheolaidd. Derbyniodd BA Ffilm a Fideo yn y Brifysgol Celfyddydau Creadigol yn Farnham, cafodd radd Meistr anrhydeddus yn y Celfyddydau o UCA.

Dechreuodd Edwards ei yrfa mewn effeithiau gweledol; creu effeithiau digidol ar gyfer sioeau mawreddog fel Nova, Heroes and Villains, ble wnaeth 250 o effeithiau gweledol a enillodd gydnabyddiaeth ryngwladol.

Yn 2008 aeth i Her Ffilm Sci-Fi-Llundain 48-awr, lle roedd rhaid creu ffilm cychwyn-i-gorffen mewn dim ond dau ddiwrnod, o fewn meini prawf penodol. Enillodd Edwards y gystadleuaeth ac aeth ymlaen i ysgrifennu Monsters, ei nodwedd gyntaf. Wnaeth Edwards greu'r effeithiau arbennig ar gyfer Monsters gan ddefnyddio offer oddi ar y silff. Heblaw am y ddau brif actorion, roedd y criw o ddim ond pump o bobl. Ar ôl rhyddhau y ffilm, fe gafodd gyfweliadau yn Hollywood gyda nifer o stiwdios ac ym mis Ionawr 2011, glaniodd Edwards ei ffilm nodwedd Hollywood mawr cyntaf - Godzilla.

Cyfarwyddodd Edwards Rogue One, y ffilm Star Wars annibynnol gyntaf, a ysgrifennwyd gan Chris Weitz a Tony Gilroy, yn serennu Felicity Jones, a'i ryddhawyd ar 16 Rhagfyr 2016.


Mae'r noson yn ddigwyddiad codi arian ar gyfer gwaith elusennol ac addysgiadol BAFTA Cymru.


Noddwyd gan