You are here

Gyrfa Glyfar: Ryan Eddleston ar Sinematograffiaeth

Ryan Eddlestone
Tuesday, 23 April 2019 - 4:00pm
Chapter, Caerdydd
Y nesaf yn ein cyfres Gyrfaoedd Clêr, sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr ac aelodau sy'n dechrau gyrfa i glywed am ddatblygiad gyrfa unigolion mewn rolau allweddol yn y diwydiant.

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Chyfryngau, dechreuodd Ryan saethu rhaglenni dogfen ac enillodd Wobr BAFTA Cymru am Y Bardd Sy'n Caru Y Rhyfel: Ivor Gurney.

Wrth symud ymlaen i ffilmiau nodwedd, saethodd Black Mountain Poets a enwebwyd ar gyfer BIFA a'i dangoswyd yn SXSW, ac aeth ymlaen i saethu Prevenge (cyf: Alice Lowe) a ddangosodd yn Toronto, Fenis, BFI LFF a SXSW, a'r llynedd ar Fight (cyf: Jessica Hynes), un o ddewisiadau Peter Bradshaw o Ŵyl Ffilmiau BFI Llundain.

Mae wedi gweithio gyda'r cyfarwyddwyr Dolly Wells, Jacob Anderson, Rhiana Yazzie, Toby Cameron, Jen Sheridan, Naomi Waring a Claire Fowler, gan saethu 5 ffilm nodwedd, nifer o ffilmiau byr a chyfres deledu, sydd mewn ôl-gcynhyrchiad neu ar gylchdaith yr ŵyl.

Bydd Ryan yn siarad am ei broses greadigol yn ogystal â'i lwybr gyrfa hyd yma a'i awgrymiadau ar gyfer datblygu gyrfa fel sinematograffydd.

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer aelodau BAFTA Cymru ac aelodau sy'n dechrau gyrfa yn unig.

E-bostiwch Vicki i gadw'ch lle. Mae croeso hefyd i aelodau BAFTA Cymru ymuno â ni ar gyfer dangosiad The Fight + Q&A gyda Jessica Hynes sy'n dilyn y digwyddiad hwn.


Cefnogwyd gan: