You are here

Gyrfa Clyfar: Annie Atkins yn trafod graffeg a chynllunio mewn ffilm

Friday, 25 November 2016 - 4:30pm
Coastline Film Festival, Llandudno
Cyfle ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn dylunio graffeg ar gyfer ffilm i glywed gan Annie Atkins, dylunydd ar ffilm Titanic, Boxtrolls, Bridge of Spies, Penny Dreadful a Grand Budapest Hotel.

Os oes diddordeb mewn ymuno fel aelod myfyriwr neu cychwyn gyrfa a mynychu'r digwyddiad hon, ebostiwch ni fan hyn

Darganfyddwch mwy am Annie yma 

Yn ysgrifennu gwarantau marwolaeth ar gyfer Harri VIII,  ffugio dogfennau CIA, i greu math newydd o fisged, mae Annie Atkins (34) sy'n byw yn Nulyn yn ddylunydd graffig arobryn ar gyfer ffilm a theledu gyda gwaith yn cynnwys y ffilm a enillwyd Oscar-'Grand Hotel Budapest'.

"Cefais fy ngeni yng Nghymru, er fod  fy Mam yn Wyddeles.  Roedd Dad yn ddylunydd graffig ac ers imi fod yn fach, roeddwn i eisiau bod yn un hefyd".

Mae'r diwydiant ffilm a theledu Gwyddelig yn brysur, o Victoria London gyda Penny Dreadful, i'r  Vikings a The Tudors.  Mae'n arferol i gwmnïau rhyngwladol i weithio gyda chriwiau lleol; felly roedd mynd i'r Almaen gyda Wes Anderson ar gyfer Grand Budapest Hotel yn anarferol. Roedd Wes yn gyfarwydd gyda fy ngwaith gyda Boxtrolls - sef animeiddiad. Felly, dydych chi byth yn gwybod beth all arwain at waith arall.

Nid yw pobl bob amser yn sylweddoli fod popeth yr ydych yn gweld mewn ffilm wedi cael ei wneud.  O ran Grand Budapest Hotel,  a oedd yn cynnwys arian, pasbortau, a blychau patisserie pinc Mendl. Un o'r pethau sydd yn hwyl i wneud yw'r dogfennau ffug. Rwyf newydd wneud ffilm Spielberg [does dim teitl iddo eto], ac fe ges stampiau CIA  wedi ei wnaed gan The Rubber Stamp Company. Fe wnaethant gysylltu a mi -  am nad ydych yn fod i wneud hynny.

"Rydw i'n gweithio ar gêm newydd ar gyfer Playstation4 ar hyn o bryd, a hefyd rwy'n datblygu argraffiad o fisged cyfyngedig yn rhan o brosiect cydweithredol ar gyfer yr arddangosfa ID2015 Liminal, sy'n mynd i Milan, Eindhoven ac Efrog Newydd. Rwyf hefyd yn y broses o sefydlu stiwdio newydd, Think and Son gyda Eoghan Nolan, fel y gallwn gymryd mwy o waith. Mae'n gyfnod cyffrous iawn".


Mewn partneriaeth gyda