You are here

Gweithdy: Gwneud Ffilm Mae'r Farchnad Eisiau - gyda Samantha Horley

Saturday, 17 June 2017 - 10:00am
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Beth yw pwynt o ysgrifennu sgript fydd byth yn cael ei ariannu neu wneud ffilm na fydd byth yn cael ei weld? Ymuwch yn y gweithdy un-dydd yma i greu mantais fasnachol a gwell cyfle o gael gwneud eich ffilm eich hun, o ariannu at ddosbarthu. Byddwn yn canolbwyntio ar bob genre a sut i fowldio eich syniadau i gyd-fynd a'r hyn y mae'r farchnad ei eisiau; yn ogystal a beth mae dosbarthwyr ledled y byd, prynwyr a gwyliau yn chwilio amdano. Byddwch yn dysgu sgiliau lleoli, pitsio a chyflwyno a chael y cyfle i gyflwyno syniad. p>

 

Mae gan Samantha Horley ugain mlynedd o brofiad mewn gwerthiant ffilm rhyngwladol (mae ei amryw gredydau yn cynnwys Memento, The Big Lebowski, Blair Witch Project a Lock, Stock and Two Smoking Barrells). Mae'n arbenigwr mewn marchnadoedd a chynulleidfaoedd ledled y byd ac yn arbenigwr yn asesu'r hyfywedd masnachol o sgriptiau a phrosiectau pecynnu. Yn awr, fel sgriptiwr a gynrychiolir gan United Agents, mae hi wrthi yn defnyddio ei sgiliau ar ei gwaith ei hun.


Mae'r gweithdy diwrnod llawn wedi ei anelu at unrhyw lefel o gyfarwyddwyr nodwedd, awduron a chynhyrchwyr neu'r rhai sydd am symud i mewn i nodweddion o ddisgyblaeth arall boed yn hysbysebion, fideos cerddoriaeth neu deledu.

Bydd Samantha yn edrych ar leoli a chyflwyno yn ogystal a sgiliau pitsio, "y two liner" ac ysgrifennu crynodebau a "taglines". Yn y prynhawn byddwch yn ymchwilio yn ddwfn i mewn i bob genre hysbys, darganfod pa rhai sydd mwyaf a lleiaf atyniadol i ddosbarthwyr a chynulleidfaoedd, ac yn siarad am sut i ddatblygu eich syniadau i gyd-fynd a'r tueddiadau yma. Ar ddiwedd y dydd, byddwch yn cael cyfle i gynnig syniad rydych chi wedi dod o hyd i ar y diwrnod i grŵp o'ch cyfoedion.


Bydd y gweithdy yn rhedeg o 10:00 tan 16:00 a bydd lluniaeth ysgafn ar gael.

Bwciwch NAWR i gymeryd mantais o'r raddfa cynnar (hyd at 19 Mai):

Aelodau BAFTA Cymru: £30

Cyhoedd: £40

(Prisiau ar ol 19 Mai: Aelodau BAFTA Cymru £40 / Cyhoedd £50)