17.30 - Cofrestrwch i gael slot i roi cynnig ar brofiad VR newydd gan Doctor Who yn ystafell 0.18. Bydd staff ac arwyddion wrth law i'ch cyfeirio chi o'r dderbynfa. Camwch i mewn i'r TARDIS gyda'r Doctor yn y stori animeiddiedig, ryngweithiol hon gan dîm Doctor Who. Antur VR 13 munud gan y tîm y tu ôl i Gyfres Doctor Who 11.
18.30 - Prif araith Flynyddol Dewi Vaughan Owen gan Jo Pearce
Bydd Jo yn manylu ar sut y gall defnyddio Llwyfannau Cymdeithasol a VR i ddatblygu cynnwys ddarparu profiadau na all cynhyrchu llinol eu gwneud. Bydd yn manylu ar yr ystyriaethau sgriptio sy'n digwydd yng nghamau cynnar eu datblygiad a'r dechneg o sut i gadw lefelau ymgysylltiad yn uchel. Mae tirwedd y cyfryngau yn ehangu'n barhaus - bydd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg i chi ar y cyfleoedd cyffrous sydd o'n blaenau, i wneuthurwyr cynnwys sy'n ffynnu ar newid - yn eich paratoi ar gyfer yr her honno.
19:30 - Perfformiad Cerddorfa Gêm Fideo Genedlaethol Cymru
Mae Cerddorfa Gêm Fideo REPCo yn cyflwyno eu hail gyngerdd yn Level Up! yn canolbwyntio ar gerddoriaeth o gemau antur mawr yn cynnwys The Legend of Zelda, Skyrim, cyfres Fallout, Alan Wake a mwy!
Mae gennym ddyraniad cyfyngedig o docynnau cyflenwol i'r araith a pherfformiad ar gyfer aelodau BAFTA Cymru.
RSVP i Vicki i gadw'ch lle.
Gall pobl nad ydynt yn aelodau brynu tocynnau i'r araith a'r perfformiad yma. Tocynnau: £4 ymlaen llaw, £6 ar y diwrnod.
Gyda chymorth: