You are here

Diodydd Haf Rhwydweithio: Blasu Cwrw gyda Tiny Rebel (Caerdydd)

Headline: An Audience with Gareth EdwardsVenue: 195, Piccadilly LondonDate: 1st March 2017 Hosts: BAFTA-winning director Gareth Edwards, interviewed by Celyn JonesBAFTA/Mollie Rose
Wednesday, 19 July 2017 - 7:00pm
Tiny Rebel, 25 Westgate St, Caerdydd CF10 1DD

Mae'r haf wedi cyrraedd ac felly hefyd y cyntaf o'n diodydd rhwydweithio tymhorol. Treuliwch y noson gyda'ch cyfoedion diwydiant mewn amgylchedd anffurfiol, hamddenol tra'n dysgu mwy am Tiny Rebel a'r cwrw maent yn eu cynhyrchu. Yn arbennig ar gyfer aelodau BAFTA Cymru yn unig. P>

Tiny Rebel Brewing Co

Dechreuodd y cyfan mewn garej yn 2008, lle roedd Brad a Gazz yn bragu cartref ar benwythnosau.

Wrth ddeall eu bod yn cael llwyddiant arni, a bod yn geeks cwrw yn y bôn, penderfynwyd i gymeryd pethau un cam ymhellach a ddechrau Tiny Rebel yn 2012.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cymerodd y bragdy rhan yn yr Ŵyl Gwrw Gymreig Fawr drwy ennill Aur, Arian ac Efydd yn y gystadleuaeth Pencampwr Cwrw Cymru.

Ennillodd y bragdy Pencampwr Cwrw Cymru unwaith eto yn 2014.

Mae eu cwrw blaenllaw Cwtch wedi enill Pencampwr Cwrw Prydain yng Ngŵyl Cwrw Prydain 2015 - cyflawniad maent yn hynod o falch ohono.

Aethant ymlaen i ennill gwobr SIBA (Cymdeithas Bragwyr Annibynnol) am Fragdy prydeinig, yn ogystal â Bragdy Gorau'r DU yn Her Cwrw Rhyngwladol 2016.

Yn 2014, agorwyd bar cwrw crefft cyntaf erioed ac yn 2015 eu hail bar yng Nghasnewydd. Mae 2017 yn gweld nhw yn camu i mewn i'w safle bragdy pwrpasol newydd sbon, gan gynnwys gofod bar a digwyddiadau.

www.tinyrebel.co.uk