You are here

Dangosiad: The Fight + sesiwn holi gyda Jessica Hynes + Ryan Eddleston

The Fight publicity still
Tuesday, 23 April 2019 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
Prin y gall Tina, mam prysur o dri, ddod o hyd i unrhyw amser iddi hi ei hunan. Gyda'i gŵr yn gweithio yn y nos, mae ei merch hynaf yn cael ei fwlio yn yr ysgol, perthynas ei rhieni yn ansicr, heb sôn am jyglo ei swydd amser llawn ei hun. Mae hi'n teimlo ei fywyd yn ei llethu. Ond mae'r sefyllfa yn mynd hyd yn oed yn fwy cymhleth pan fydd ail-ymddangosiad cyn-gystadley-ydd o'r ysgol yn gorfodi Tina i wynebu atgofion anodd. Wedi iddi benderfynu i adennill rheolaeth, mae Tina'n mynd i mewn i'r cylch bocsio ac yn darganfod sut i ymladd drosti'i hun.

Y ffilm gyntaf fel cyfarwyddwr gan Jessica Hynes (W1A, Twenty Dwelve, The Royle Family) gyda sinematograffeg gan enillydd BAFTA Cymru, Ryan Eddleston (Prevenge, Black Mountain Poets, Timeshift: The Poet Who Loved The War: Ivor Gurney, American Interior).

Dilynir y dangosiad gan sesiwn holi ac ateb gyda Jessica Hynes a Ryan Eddleston.

Gall aelodau gadw lle trwy e-bostio Vicki.

Gellir prynu tocynnau cyhoeddus trwy Chapter.