You are here

Dangosiad: Finale Peaky Blinders + sesiwn holi & Ateb

Sunday, 22 September 2019 - 7:30pm
Chapter, Caerdydd
Ymunwch â ni am finalé tymor pump o saga arobryn Steven Knight, Peaky Blinders, ychydig cyn ei ddarllediad ar BBC One, yr un noson.

1929. Mae' r byd i gyd wedi cael ei daflu i helbul gan y ddamwain Wall Street. Mae cyfle a drygioni ym mhobman. 

Mae Tommy Shelby MP (Cillian Murphy) yn cael ei gysylltu gan wleidydd carismatig (Sam Claflin, The Hunger Games) gyda gweledigaeth feiddgar ar gyfer Prydain. Mae' n sylweddoli yn fuan y bydd ei ymateb yn effeithio nid yn unig ar ddyfodol ei deulu ef ond ar y genedl gyfan.

Ceir cast ysblennydd sy'n cynnwys Helen McCrory (Skyfall), Paul Anderson (The Revenant), Sophie Rundle (Gentleman Jack), Anya Taylor-Joy (Glass), Brian Gleeson (Logan Lucky) ac Aidan Gillen (Game of Thrones).

Yn y bennod olaf , mae tensiynau teuluol yn dod i’r wyneb ar ôl cyhoeddiad annisgwyl ac mae Tommy yn rhoi ei gynllun ar gyfer Oswald Mosley ar waith, ond a yw wedi tanamcangyfrif ei wrthwynebydd?

Bydd y ddangosiad arbennig hwn yn cael ei ddilyn gan drafodaeth a sesiwn holi gyda’r gynulleidfa gyda unigolion creadigol  allweddol gan gynnwys Chris Ballantyne (Cyd-Gynhyrchydd - Broadchurch, Silent Witness), Nicole Northridge (Cynllunydd y  Cynhyrchiad - Humans, Jamestown), Jonathan Midlane (Cyfarwyddwr Cynorthwyol cyntaf - His Dark Materials, The Informer) ac arbenigwyr effeithiau arbennig Danny Hargreaves (Sherlock, Star Wars, Tolkien) a Arran Glasser (Luther, Doctor Who) or Real SFX yng Nghaerdydd. 

Bydd diodydd rhwydweithio cyn y ddangosiad, wedi ei cefnogi gan Sgrîn Cymru. 
Bydd y dangosiad yn dechrau am 20.30
Y cofnod diwethaf ar 20:20

Mae gwisg ar thema Peaky Blinders yn cael ei annog ond nid yn orfodol.

Gan y bydd y dangosiad hwn yn cael ei gynnal yn fuan ar cyny ddarllediad BBC, mi fydd polisi dim ffonau symudol llym yn ystod y dangosiad sgrinio a' r sesiwn trafod


I archebu tocyn aelod ebostiwch Ella

Bydd tocynnau i'r cyhoedd ar gael cyn hir o Chapter.


Mewn partneriaeth gyda