You are here

Dangosiad 30 mlwyddiant: Cry Freedom + sesiwn holi ac ateb

Wednesday, 8 November 2017 - 6:00pm
Chapter, Caerdydd
I ddathlu 30 mlynedd ers rhyddhau'r ffilm a'r linc i ni fel y ffilm gyntaf a'i dangoswyd gan gangen BAFTA Cymru (ym mis Ionawr 1988), byddwn yn cofio ein digwyddiad cyntaf erioed gyda dangosiad arbennig o Cry Freedom. Bydd y dangosiad yn cael ei ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gyda cynhyrchydd y ffilm, Terence A. Clegg, a gwesteion arbennig.

Cry Freedom 
Ffilm ddrama epig Brydeinig a gyfarwyddwyd gan Richard Attenborough, a osodwyd yn nhymor apartheid 1970au yn Ne Affrica. Mae'r ffilm yn ffocysu ar ddigwyddiadau go iawn yn ymwneud a'r gweithredwr du Steve Biko a'i gyfaill Donald Woods. Mae Denzel Washington yn serennu fel Biko, tra bod yr actor Kevin Kline yn portreadu Woods. Mae Cry Freedom yn ymdrin a syniadau gwahaniaethu, llygredd gwleidyddol, ac effeithiau trais.

Terence Clegg
Mae credydau y cynhyrchydd clodwiw Terence Clegg yn cynnwys Out of Affrica, Shadowlands a'r Jackal.