You are here

Cwrdd a'r cynhyrchwyr + Rhwydweithio - Gogledd Cymru

Tuesday, 20 June 2017 - 7:00pm
Galeri, Caernafon
Cyfle i gwrdd â chynhyrchwyr o dri o gwmnïau cynhyrchu mwyaf blaenllaw Cymru - Chwarel, Cwmni Da, Antena a Rondo.

Cynhelir y sesiwn hon gan Luned Whelan (TAC), a bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i glywed gan gynrychiolwyr lefel uwch o bob un o'r 4 cwmni. Cewch wybod mwy am sut y maent yn hoffi gweithio, pa syniadau cynnwys y maent yn chwilio amdanynt a'r ffordd orau i gysylltu â nhw os ydych yn llawrydd yn chwilio am waith. Yn ail hanner y sesiwn, byddwn yn hwyluso'r cyfle i chi gyflwyno eich hun a'ch syniadau i'r cwmnïau â rhwydweithio mewn grŵp.

Gellir brynu tocynnau cyhoeddus am £5 yr un drwy Galeri

Mae Antena wedi bod yng Ngogledd Cymru ers 1988, yn wreiddiol dan yr enw Dime Goch. Mae ein cynhyrchiadau diweddar wedi bod yn amrywio o Ddogfennau, Paffio, Lleisio Cartwnau a rhaglenni i bobl ifanc fel Ochr1 ac Y Lle. Mae Antena yn rhan o Hansh ac felly yn cynhyrchu deunydd ffurf fer ar gyfer y Wê i ddechre, fydd wedyn yn ymddangos ar ffurf mwy traddodiadol o ddarlledu. Mae criw beiddgar Antena hefyd yn cynhyrchu deunydd rhyngweithiol byw ar gyfer y Wê.

Mae Chwarel yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer marchnadoedd cartref a rhyngwladol, yn cynnwys y cyfresi teledu Ward Plant (S4C), Banking on Benefits (BBC1 Cymru Wales), The Horse Hoarder (C4) a Hotel Stephanie (cydgynhyrchiad gyda Mentorn). Yn 2016, cafodd  ei raglen Ysbyty Cyw Bach ei enwebu ar gyfer Prix Jeunesse UNESCO.

Mae allbwn cenedlaethol a rhyngwladol Cwmni Da yn cynnwys meysydd ffeithiol (Pethe, Fferm Ffactor, Byw yn yr Ardd), plant (RhyfeddOd), comedi (enillydd BAFTA, Dim Byd), adloniant (Sioe Tudur Owen), drama (Blodau, Sombreros), rhaglenni ffordd o fyw, digwyddiadau a rhaglenni chwaraeon. Mae'r cwmni’n gynhyrchydd mawr i S4C, yn ogystal â chynhyrchu cynnwys ar gyfer y BBC a C4, ac mae ganddo hanes llwyddiannus yn y farchnad gydgynhyrchu ryngwladol.

Mae Rondo Media yn ymfalchïo mewn etifeddiaeth gyfoethog o gynyrchiadau drama uchel eu bri, yn cynnwys y cyfresi drama Rownd a Rownd (S4C), The Indian Doctor (BBC One / dosbarthu rhyngwladol trwy Content Media) a Gwlad yr Astra Gwyn (S4C). Mae'r cwmni hefyd yn gynhyrchydd balch o nifer o raglenni dogfen grymus a chraff gan gynnwys My Tattoo Addiction (cyfres ar gyfer Channel 4 / gwerthiant rhyngwladol BBC Worldwide), ac yn fwyaf diweddar, Matt Johnson: Iselder a Fi (S4C).