You are here

Creu cyfres teledu Manhunt + sesiwn holi gyda Martin Clunes ac eraill

Manhunt
Thursday, 7 February 2019 - 6:30pm
Chapter
Ymunwch am noson gyda'r tîm y tu ôl i gyfres ITV Manhunt i drafod y broses creadigol a ddaeth â'r sioe i'r sgrin.

Mae'r actor arobryn BAFTA Martin Clunes yn cymryd rhan y Cyn-Ditectif, Colin Sutton, a chafodd hyd i'r llofrydd cyfresol Levi Bellfield.

Wedi ei ygrifennu gan Ed Whitmore (Silent Witness, Rillington Place, Strike Back) a'i cynhyrchu gan Buffalo Pictures, mae Manhunt yn onrain hanes wir sut y cafodd llofruddiaeth myfyriwr Ffrangeg, Amelie Delagrange, ar Twickenham Green ym mis Awst 2004 ei gysylltu yn y pen draw â llofruddiaethau Marsha McDonnell yn 2003, a chipiad a llofruddiaeth Milly Dowler yn 2002. Gyda chydweithrediad llawn yr hen DCI Colin Sutton, mae Manhunt yn dramateiddio'r ymchwiliad i ddod o hyd i'r llofrydd.

Mae'r ddrama dair rhan yn dilyn ymchwiliad manwl gan gyn-dditectif heddlu Fetropolitan Llundain a'i dîm, wrth iddynt ymroddi eu hunain i ddod o hyd i laddwr Amelie, a dilyn cysylltiadau â'r llofruddiaethau eraill.

Wedi'i gyfarwyddo gan yr enillydd BAFTA Cymru Marc Evans (Trauma, Safehouse, Hinterland) ac yn serennu'r actor ac enwebai BAFTA Cymru, Celyn Jones (Set Fire to the Stars) yn rôl Levi Bellfield.

Bydd Celyn Jones, Marc Evans, Martin Clunes a chynhyrchydd Buffalo Pictures, sydd hefyd o Gymru, Philippa Braithwaite yn ymuno â ni ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb i edrych yn ôl ar ddarnau o'r sioe sy'n darlledu ar 6-8 Ionawr 2019 ar ITV 1.


Mae gennym ddyraniad cyfyngedig o docynnau aelodau ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. E-bostiwch Vicki i gadw'ch lle.

Gall aelodaeu o'r cyhoedd brynu tocynnau o Chapter yn y flwyddyn newydd.