You are here

Noson yng Nghwmni Mark Lewis Jones

BAFTA Cymru Awards, Press Room, Cardiff, Wales, UK - 02 Oct 2016Thomas/BAFTA/REX/Shutterstock
Tuesday, 17 October 2017 - 7:00pm
Yr Ystafell Ddarllen, Adeilad ALEX, Ffordd Alexandra, Abertawe, SA1 5DX
Cyfle i glywed am yrfa'r actor arobryn BAFTA Cymru, Mark Lewis Jones (The Passing, Stella, National Treasure).

Mae Mark Lewis Jones yn actor a anwyd yn Wrecsam sy'n enwog am ei rolau teledu mewn cynyrchiadau megis 55 Degrees North a This Life, yn ogystal â actio mewn "blockbusters" fel Robin Hood, Troy a Master And Commander.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Mark wedi ymdangos yn rheolaidd ar ein sgriniau teledu yn ei rolau rheolaidd yn Stella a Byw Celwydd.

Yn 2016 enillodd Mark wobr BAFTA Cymru Actor ar gyfer y ffilm The Passing / Yr Ymadawiad, ac fe'i enwebir yn yr un categori yng Ngwobrau 2017 Cymru am ei rôl yn The Lighthouse.

Yn ddiweddar, mae wedi cwblhau ffilmio ar ffilmiau nodwedd Apostle a Star Wars: The Jedi Last.